Mae ffoadur o Wcráin, Hanna, sydd wedi ymgartrefu yng Ngheredigion wedi derbyn cefnogaeth gan dîm Cymunedau am Waith +, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae Hanna wedi ymgymryd â sawl rôl wahanol yn y gorffennol ond ei swydd ddiweddaraf oedd triniaeth dwylo o gartref, tra'n byw yn Wcráin a Latfia.

Roedd Hanna wedi cael cynnig diwrnod prawf mewn salon ewinedd lleol yn Aberystwyth a mynegodd ei diddordeb mewn parhau â'i gyrfa fel technegydd ewinedd. Fodd bynnag, er mwyn parhau i weithio fel technegydd ewinedd yn y DU, bu'n rhaid iddi gwblhau cymhwyster yn y DU.

Ar ôl sawl cyfarfod, galwad ffôn ac e-bost gyda'i mentor Delor, cafodd Hanna gymorth ariannol i dalu cost y cymhwyster yn ogystal â chostau teithio i fynychu'r cwrs.

Gyda chyllid a chefnogaeth gan dîm CFW + drwy Lywodraeth Cymru, llwyddodd Hanna i gwblhau ei chymhwyster ac ers hynny mae wedi sicrhau rôl ran-amser yn Diva Nail Designs yn Aberystwyth.

I gael gwybod mwy am y gwasanaethau a ddarparwn yng Ngheredigion, e-bostiwch TCC-EST@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01970 633422.