A oes angen cymorth arnoch chi i gael swydd neu gael swydd well?
Gall ein Tîm Cymorth Cyflogadwyedd eich helpu os ydych yn un o’r canlynol:
- yn ddi-waith
- NEU mewn gwaith
- NEU’N hunangyflogedig
Mae ein Tîm Cymorth Cyflogadwyedd yn darparu gwasanaeth mentora mewn lleoliadau ar draws Ceredigion i unrhyw un dros 16 oed sy’n chwilio am waith.
Mae rhywfaint o’r cymorth y gallwn ei gynnig yn cynnwys y canlynol:
- Cymorth mentor unigol
- Cymorth gyda’ch CV a’ch ffurflenni cais am swydd
- Technegau ar gyfer cyfweliad
- Cyllid ar gyfer teithio a chostau eraill
- Cyfleoedd gwirfoddoli
- Hyfforddiant sgiliau gwaith am ddim
- Cyfleoedd lleoliadau gwaith â thâl
Cysylltwch â ni drwy e-bost ar TCC-EST@ceredigion.gov.uk neu drwy ffonio 01545 574193.
I gael rhagor o wybodaeth:
- Ydych chi'n 16-24 oed? Ewch i'r dudalen Cymunedau am Waith a Mwy
- Ydych chi'n 25+? Ewch i'r dudalen Gweithffyrdd +
Eich Ymrwymiad
- er mwyn rhoi cymorth i chi, bydd angen rhywfaint o dystiolaeth o waith papur arnom i brofi eich bod yn gymwys. Darparwch y dogfennau hyn cyn gynted â phosibl er mwyn peidio ag oedi ein cymorth
- cysylltwch â'ch mentor a'ch swyddog cyswllt cyflogaeth yn rheolaidd, maent ar gael dros y ffôn, e-bost, WhatsApp, Skype a Zoom a byddant yn cysylltu â chi'n rheolaidd
- bydd yna adegau pan fydd yn rhaid i chi gyfarfod â'r staff. Byddwch wedi cytuno ar leoliad, dyddiad ac amser. Bydd yn rhaid i staff deithio i gwrdd â chi, felly mae'n hanfodol eich bod yn bresennol ac os bydd yn rhaid i chi ganslo, dylech roi rhybudd o 24 awr
- os ydych am gael hyfforddiant, cofiwch fod cyrsiau'n gallu fod yn ddrud ac weithiau'n golygu aros oddi cartref dros nos. Bydd angen i chi fynychu a chwblhau eich cwrs. Os na allwch ddod, rhowch wybod i'n cydlynydd hyfforddiant neu eich Mentor fel y gallwn wneud trefniadau eraill cyn gynted â phosibl
Dolenni Defnyddiol
- Llywodraeth Cymru
- Banciau Bwyd Ceredigion
- Cyngor ar Bobeth
- Jobcentre Plus (Saesneg yn unig)
- Department for Work and Pensions (Saesneg yn unig)
- Y Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr
- Dewis Cymru
- Tim Teulu
- Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion
- Barod
- Mind Aberystywth (Saesneg yn unig)