Mae dyn ifanc arall wedi cael cymorth gan y tîm Cymunedau am Waith+ i gael cymwysterau a chyflogaeth yn ardal Aberystwyth.

James

Daeth James, sy’n wreiddiol o Essex, i Aberystwyth i astudio Roboteg. Sylweddolodd yn fuan nad oedd y cwrs yr hyn yr oedd wedi’i ddychmygu a gadawodd i geisio penderfynu beth yr hoffai ei wneud. Ers hynny, bu’n ei chael yn anodd i ddod o hyd i waith yn Aberystwyth ac ymunodd â’r prosiect Cymunedau am Waith+ yn 2021.

Cafodd gymorth i ennill ei dystysgrif Adeiladu CSCS er mwyn cael gwaith.

Os hoffech chi gael cymorth gyda chyflogaeth, cysylltwch â’r tîm Cymunedau am Waith+ trwy e-bost TCC-EST@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01970 633422.