Roedd David, un o drigolion Aberteifi, yn ddi-waith ac yn chwilio am swydd. Nid oedd yn siŵr pa gyfeiriad i'w ddilyn i ddod o hyd i'r swydd iawn iddo, yn enwedig gan ei fod wedi cael cymorth gan wahanol raglenni cyflogaeth yn y gorffennol nad oedd wedi gweithio.

Dywedodd hyfforddwr gwaith David yn y ganolfan waith leol wrtho i drafod ei opsiynau gyda'r tîm Cymunedau am Waith a Mwy. Gyda'r cymorth a'r cyfleoedd a ddarparwyd gan y tîm, mae David bellach yn gweithio bum niwrnod yr wythnos fel porthor cegin yn ‘Crwst’, sef caffi a becws poblogaidd yn Aberteifi.

Llun o david yn gwisgo ei crys t crwst

Roedd dod o hyd i'r rôl iawn i David yn heriol gan nad oes ganddo drwydded yrru, ac er iddo wirfoddoli ychydig ddyddiau'r wythnos yn siop elusen Barnardo’s, nid oedd erioed wedi cael swydd â thâl o'r blaen felly nid oedd ganddo’r profiad, yr hyder, a’r cymorth yr oedd ei angen.

Cefnogodd aelodau o'r tîm Cymunedau am Waith a Mwy, sef Delor Evans, Mentor, a Catrin Davies, Swyddog Cyswllt Cyflogwyr, David i wella ei hyder trwy ei gofrestru ar gwrs magu hyder, cynnal sesiynau chwilio am swydd, gwneud cais am swyddi amrywiol, cynnig ffug gyfweliadau i’w baratoi yn ogystal â’i helpu i lunio ei CV.

Wrth chwilio am swydd, ystyriodd David rôl porthor cegin a oedd yn cael ei hysbysebu ar Facebook. Ar ôl cael ei gynghori i alw heibio i gael sgwrs anffurfiol gyda'r cyflogwr, cafodd gynnig treial gwaith. Aeth y treial gwaith yn dda a chynigiwyd y swydd i David yn ‘Crwst’.

Mae David yn mwynhau bod yn rhan o dîm a gweithio yn ei swydd â thâl gyntaf erioed, ac roedd yn ddiolchgar am y gefnogaeth a ddarparwyd gan Dîm Cymunedau am Waith a Mwy Ceredigion.

Dywedodd Catrin o Crwst: “Mae David yn borthor cegin gwych ac mae'n ymfalchïo yn ei waith. Mae'n chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod y gwasanaeth ‘brunch’ yn gweithredu’n esmwyth bob dydd. Mae'n bleser ei gael yn rhan o Dîm Crwst."

Y Cynghorydd Catrin Miles yw Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes & Sgiliau, Cymorth ac Ymyrraeth. Dywedodd: "Os yw eich stori chi’n swnio’n debyg i un David ac rydych yn dal i geisio dod o hyd i waith, cysylltwch â Thîm Cymunedau am Waith a Mwy Ceredigion nawr a gallech chi hefyd gael y gefnogaeth, yr hyfforddiant a'r sgiliau sydd eu hangen i gael y swydd sy’n iawn i chi. Ar hyn o bryd mae'r Tîm yn cefnogi tua 80 o bobl drwy'r prosiect ac maent wrth law i helpu hyd yn oed mwy o bobl i ddod o hyd i'r swydd gywir."

Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn brosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru, a ddarperir gan Gyngor Sir Ceredigion, sy'n cefnogi unigolion 16 oed a throsodd sy’n byw mewn tlodi neu mewn perygl o fyw mewn tlodi ledled Ceredigion a ledled Cymru. Gall cyfranogwyr fod mewn gwaith ond yn byw mewn tlodi, yn ddi-waith, yn byw ar isafswm cyflog neu'n ei chael yn anodd talu costau misol sylfaenol ar gontractau dim oriau achlysurol.

Mae mentoriaid yn darparu cymorth 1:1 i gyfranogwyr gan eu helpu i ysgrifennu CV, cynnal ffug gyfweliadau, gwella eu sgiliau ac ariannu amrywiaeth eang o hyfforddiant gan gynnwys cymorth i ddechrau eu busnes eu hunain.

Os ydych chi'n credu y gallai'r prosiect eich helpu chi, neu os hoffech gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â'r tîm ar 01545 574193 neu anfonwch e-bost at TCC-EST@ceredigion.gov.uk.