Mae cyn-aelod o’r Lluoedd Arfog, Bryan Herbert, wedi derbyn cymorth gan y tîm Cymunedau am Waith+ a ariennir gan Lywodraeth Cymru i gael cyflogaeth mewn busnes teuluol ger Aberaeron.

Bryan Havard

Cysylltodd Bryan â’r tîm am gymorth ar ôl dioddef salwch, a arweiniodd at goma a chyfnod estynedig yn yr ysbyty.

Mae nawr wedi sicrhau gwaith rhan-amser gyda Cambrian Marine Centre fel Mecanig Morol lle y gall ddefnyddio ei brofiad blaenorol a’i sgiliau.

Os hoffech chi gael cymorth cyflogaeth, cysylltwch â TCC-EST@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01970 633422.