Rydym yn cynnig ystod o gyfleoedd prentisiaeth sy’n cyfuno gweithio mewn swydd wych, ennill cymhwyster ac ennill cyflog cystadleuol.

Mae croeso i unrhyw un o unrhyw oed ymgeisio am brentisiaeth (16 oed a throsodd). P’un a ydych yn dechrau ym myd gwaith, eisiau newid eich gyrfa neu ddychwelyd i’r gwaith yn dilyn diweithdra neu seibiant yn eich gyrfa, byddwn yn eich cefnogi ar hyd y daith.

Buddion

  • Cyflog prentis cystadleuol
  • Mentor i gynnig cymorth i chi wrth i chi weithio
  • Hanner diwrnod yr wythnos o amser astudio personol
  • Bod yn aelod o Gynllun Pensiwn y Cyngor
  • Gwyliau da
  • Cyfleoedd dysgu a datblygu
  • Gallu ymaelodi â’r gampfa am bris gostyngedig
  • Mynediad at gynlluniau llesiant megis cwnsela

Cwestiynau

Os oes gennych unrhyw gwestiwn ynglŷn â phrentisiaethau, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy anfon e-bost at apprentice@ceredigion.gov.uk.