Mae'n rhaid i ni weld dogfennau gwreiddiol, ac nid copïau.

Peidiwch â gyrru eitemau gwerthfawr drwy'r post. Os yw'n bosibl, dewch â nhw gyda chi i unrhyw un o'n Swyddfeydd Rhanbarthol Lleol. Fe fyddwn yn cymryd yr wybodaeth sydd angen arnom a dychwelyd y dogfennau i chi ar unwaith.

Os nad oes gennych yr holl dystiolaeth a'r wybodaeth sydd angen arnom, peidiwch ag oedi cyn gyrru eich ffurflen gais neu fe allwch golli budd-dal. Gallwch yrru'r dystiolaeth i ni yn ddiweddarach. Os na fyddwch yn darparu'r holl dystiolaeth ategol cyn pen un mis mae'n bosibl na fyddwn yn gallu talu unrhyw fudd-dal i chi.

Yr ydym angen yr un dystiolaeth ar gyfer eich partner (os yw'n berthnasol).

Tystiolaeth adnabod megis:

Tystysgrif geni, tystysgrif priodas, pasbort, cerdyn rhif Yswiriant Gwladol, cerdyn meddygol, trwydded yrru, trwydded preswylio yn y DU, cerdyn adnabod y Gymuned Economaidd Ewropeaidd neu fil trydan neu nwy diweddar. Efallai y bydd angen i ni weld nifer o'r dogfennau hyn ar gyfer pob unigolyn.

Tystiolaeth o gyfeiriad megis:

Bil trydan, nwy diweddar neu drwydded deledu.

Tystiolaeth rhif Yswiriant Gwladol megis:

Cerdyn rhif Yswiriant Gwladol, slipiau cyflog neu lythyrau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau neu Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi.

Tystiolaeth o gyfalaf, cynilion a buddsoddiadau megis:

Holl lyfrau banc, cymdeithas adeiladu neu Swyddfa'r Post, cyfriflenni banc cyflawn, neu dystysgrifau bondiau premiwm, Tystysgrifau Cynilion Cenedlaethol, Cyfrifon Cynilo Unigol, stociau, cyfranddaliadau ac ymddiriedolaethau unedol. Mae angen i ni weld tystiolaeth o unrhyw log neu fuddrannau a dderbyniwyd o fuddsoddiadau a chynilion. Mae'n rhaid bod y dystiolaeth a ddarperir yn dangos manylion ar gyfer y ddau fis diwethaf yn olynol o leiaf.

Tystiolaeth enillion:

Yr ydym angen y canlynol gan bob unigolyn sy'n gweithio i gyflogwr:

  • y pum slip cyflog diwethaf yn olynol os telir yn wythnosol,
  • y tri slip cyflog diwethaf yn olynol os telir bob pythefnos,
  • y ddau slip cyflog diwethaf yn olynol o leiaf os telir yn fisol.

Neu, gallwch lawrlwytho 'Tystysgrif o Gyflog a Enillwyd' i'r cyflogwr ei llanw a'i llofnodi.

Yr ydym angen gan bob unigolyn hunangyflogedig:

  • Cyfrifon diweddaraf y busnes os yw'r busnes wedi bod yn masnachu am fwy na blwyddyn,
  • Dadansoddiad o weithgaredd masnachu os yw'r busnes wedi bod yn masnachu am lai na blwyddyn

Gallwch lawrlwytho 'Tystysgrif Hunangyflogaeth' a'i llanw er mwyn darparu'r wybodaeth angenrheidiol os ydych wedi bod yn masnachu am lai na blwyddyn neu os nad oes gennych gyfrifon busnes.

  • Os oes gennych fusnes hunangyflogedig newydd, rhowch amcangyfrif o'r elw a cholled tebygol ar gyfer y flwyddyn gyntaf.

Tystiolaeth o incwm arall megis:

Slipiau pensiwn gan gyn-gyflogwr neu lythyr gan y llys yn dangos faint o dâl cynhaliaeth yr ydych yn ei dderbyn. Mae angen i ni weld tystiolaeth o unrhyw arian y mae pobl yn ei dalu i chi ar gyfer lluniaeth a llety.

Bydd angen i fyfyrwyr gyflwyno llythyr a yrrwyd atynt gan eu Hawdurdod Addysg Lleol yn dyfarnu eu grant/benthyciad i fyfyrwyr.

Tystiolaeth o fudd-daliadau, lwfansau neu bensiynau megis:

Hysbysiadau dyfarniad cyfredol neu lythyrau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau neu Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn cadarnhau faint yr ydych yn ei dderbyn, er enghraifft,

Credydau Treth, Pensiynau'r Wladwriaeth, Budd-daliadau'r Wladwriaeth ac yn y blaen.

Tystiolaeth o rent preifat a thenantiaeth megis:

Llyfr rhent, derbynebau rhent, cyfriflen rhent, cytundeb tenantiaeth neu lythyr oddi wrth eich landlord.

Tystiolaeth o arian arall a dalwyd megis:

Llythyrau ynglyn â grantiau i fyfyrwyr neu daliadau cynhaliaeth, cytundebau neu dderbynebau gan ofalwyr plant cofrestredig.