Gwybodaeth ynglyn ag ol-ddyddio Budd-dal Tai, Lwfans Tai Lleol a/neu Ostyngiad Treth y Cyngor.

Rwy wedi cyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn y Wladwriaeth, pryd fydd fy nghais yn ddechrau?

Os ydych chi, neu eich partner, wedi cyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn y Wladwriaeth ac yn gymwys am Fudd-dal Tai, Lefans Tai Lleol neu Ostyngiad Treth y Cyngor, gallwn ôl-ddyddio'ch budd-daliadau/gostyngiad am hyd at 3 mis cyn y dyddiad y gwnaethoch eich hawliad (ar yr amod eich bod yn gymwys am fudd-dal/ostyngiad am y cyfnod hwnnw). Os ydych wedi cyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn y Wladwriaeth ac yn gymwys am fudd-dal/ostyngiad o ddyddiad cyn i chi ei hawlio, byddwn yn rhoi eich budd-dal/gostyngiad i chi'n awtomatig. Nid oes angen i ni wybod pam na wnaethoch hawliad ynghynt er mwyn ôl-ddyddio'ch budd-dal/gostyngiad.

Er mwyn ein galluogi i gyfrif faint o fudd-dal/ostyngiad y gallwch ei hawlio, bydd rhaid i chi ddarparu prawf o'ch incwm, cynillon a rhent ar gyfer y cyfnod yr ydych yn hawlio budd-dal amdano. Cysylltwch â ni os credwch y dylai eich hawliad ddechrau o ddyddiad cynharach.

Brig y Tudalen

Rwy heb cyrraedd yr oedran cynhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn y Wladwriaeth, pryd fydd fy nghais yn ddechrau?

Os ydych yn gymwys am Fudd-dal Tai neu Lwfans Tai Lleol, byddwn fel arfer yn talu'r budd-dal i chi o'r dydd Llun ar ôl i chi ofyn am ffurflen gais (ar yr amod eich bod yn dychwelyd y ffurflen cyn pen mis ar ôl cysylltu â ni).

Os ydych chi'n gymwys i gael Gostyngiad yn Nhreth y Cyngor, fel rheol byddem yn rhoddi'r gostyngiad i chi o'r dyddiad y gofynnoch chi am ffurflen gais (os dychwelwch chi'r ffurflen gais o fewn mis ar ôl cysylltu â ni).

Pan yr ydych yn hawlio Budd-dal Tai, Lwfans Tai Lleol ac/neu Gostyngiad Treth y Cyngor ar y ffôn drwy'r Ganolfan Byd Gwaith, byddwn yn ystyried mai'r dyddiad y cysylltwch â'r Ganolfan Byd Gwaith yw dyddiad eich hawliad.

Os byddwch yn derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth bydd gan bob budd-dal yr un dyddiad hawlio.

Ar rai adegau gallwn dalu budd-dal/gostyngiad am gyfnod cyn y dyddiad y gwnaethoch hawliad. Gelwir hyn yn ôl-ddyddio. Dyma'r cyfnodau hiraf y medrwn ôl-ddyddio eich hawliad:

  • 1 mis ar gyfer Budd-dal Tai neu Lwfans Tai Lleol
  • 3 mis ar gyfer Gostyngiad yn Nhreth y Cyngor

Wedi'r dyddiad y gwnewch chi eich cais i ôl-ddyddio, ar yr amod y medrwch chi ddangos fel a ganlyn:

  • Yr oedd gennych resymau da dros beidio â hawlio ynghynt
  • Nid oeddech yn gallu hawlio trwy gydol y cyfnod yr ydych chi'n gofyn am gael ôl-ddyddio eich hawliad

Bydd yn rhaid gwneud cais ysgrifenedig i ôl-ddyddio.

Brig y Tudalen

Beth a ystyrir yn 'achos da'?

Mae 'Achos da' yn rheswm i chi beidio â hawlio budd-dal/gostyngiad ynghynt. Rhaid i chi felly ddarparu'r holl wybodaeth berthnasol i gefnogi'ch cais.

Nid yw anwybodaeth o Fudd-dal Tai a/neu Ostyngiad Treth y Cyngor neu feddwl na fyddech yn gymwys amdanynt yn dderbyniol fel 'achos da' gan y disgwylir fod hawlwyr yn ymwybodol o'u hawliau.

Gall achosion da gynnwys y canlynol, yn dibynnu ar yr amgylchiadau:

  • Roeddech yn sâl ac nid oedd unrhyw un arall yn gallu hawlio ar eich rhan
  • Rhoddwyd cyngor anghywir i chi gan sefydliad swyddogol a'ch hysbysodd nad oeddech yn gymwys am Fudd-dal Tai, Lwfans Tai Lleol a/neu Ostyngiad Treth y Cyngor
  • Nid oeddech yn ymwybodol o newid diweddar o ran y gyfraith
  • Ni wnaethoch hawliad ar unwaith wedi gadael yr ysbyty, carchar neu ofal tymor hir
  • Nid oeddech gennych reolaeth dros bethau a doedd neb yno i'ch cynorthwyo
  • Bu farw perthynas agos

Dim ond canllawiau i'ch cynorthwyo yw'r enghreifftiau hyn. Nid rhestr o'r holl resymau posibl mohonynt.

Brig y Tudalen

Sut ydw i'n hawlio budd-dal/gostyngiad wedi'i ôl-ddyddio?

Os credwch fod gennych achos da am hawlio'n hwyr, dylech ein hysbysu ar unwaith yn ysgrifenedig.

Darparwch, os gwelwch yn dda:

  • Y dyddiad yr hoffech ddechrau hawlio Budd-dal Tai, Lwfans Tai Lleol neu Ostyngiad Treth y Cyngor
  • Y rheswm (neu resymau) a'ch rhwystrodd rhag hawlio ynghynt
  • Dogfennau'n rhoi tystiolaeth o'ch incwm, eich cynilion a'ch taliadau rhent am y cyfnod yr hoffech ôl-ddyddio'ch budd-dal/gostyngiad
  • Unrhyw ddogfennau'n rhoi tystiolaeth i gefnogi'ch cais – er enghraifft, tystysgrifau meddygol neu lythyrau gan ysbytai.

Os yr hoffech ragor o wybodaeth cysylltwch â ni. Gallwch hefyd gael cymorth gan asiantaeth gynghori, megis Cyngor ar Bopeth.

Brig y Tudalen

Beth sy'n digwydd nesaf?

Byddwn yn penderfynu os gellir ôl-ddyddio'ch budd-dal/gostyngiad ar sail y wybodaeth a ddarperir gennych. Byddwn yn ysgrifennu atoch i'ch hysbysu o'r penderfyniad. Os penderfynwn beidio ag ôl-ddyddio'ch budd-dal/gostyngiad, byddwn yn egluro pam.

Brig y Tudalen

Beth os nad ydw i'n cytuno â'ch penderfyniad?

Efallai y penderfynwn nad yw eich rhesymau'n ddigonol i gyfiawnhau ôl-ddyddio'ch budd-dal/gostyngiad.

AR GYFER BUDD-DAL TAI NEU LWFANS TAI LLEOL:

Os ydych chi am gael gwybod mwy am y penderfyniad neu os ydych chi'n credu ei fod yn anghywir, dylech chi gysylltu â ni o fewn un mis wedi dyddiad y llythyr neu efallai na allwn ni ystyried unrhyw angydfod.

Gallwch un ai ofyn am eglurhad neu:

  1. 1. ofyn yn ysgrifenedig am Ddatganiad Ysgrifenedig o'r Rheswm
  2. 2. gofyn i ni ailystyried y penderfyniad – 'Anghytuno â'r Penderfyniad'. Rhaid gwneud hyn yn ysgrifenedig. Os na ellir newid y penderfyniad byddwn yn rhoi gwybod pam. Os ydych yn anghytuno o hyd gallwch wneud apêl cyn pen mis o'r penderfyniad newydd.
  3. 3. 'Apelio' yngl?n â'r penderfyniad - gellir gwneud hyn yn ysgrifenedig yn unig. Os gwnewch apêl yngl?n â'r penderfyniad fe atgyfeirir eich apêl i Dribiwnlys Annibynnol a weinyddir gan y Gwasanaeth Tribiwnlys.

AR GYFER GOSTYNGIAD YN NHRETH Y CYNGOR

Os oes arnoch chi angen mwy o fanylion ynghylch unrhyw fater sydd wedi ei osod yn yr hysbysiad neu'r rhesymau dros y penderfyniad gallwch chi wneud cais o fewn un mis wedi dyddiad y llythyr am 'Ddatganiad Ysgrifenedig o'r Rhesymau'.

Os ydych chi'n anghytuno â'r penderfyniad gallwch o fewn un mis wedi dyddiad y llythyr, gyflwyno 'hysbysiad ysgrifenedig' i'r Cyngor yn nodi'n glir y mater(ion) yr ydych chi'n anfodlon arno a'r rhesymau. Byddwn yn ystyried y mater(ion) sydd ynglŷn â'ch hysbysiad chi a rhoddwn wybod i chi'n ysgrifenedig o'n penderfyniad ni gyda rhesymau. Yn dilyn y llythyr hwnnw os byddwch chi'n dal yn anfodlon bydd gennych chi 2 fis i apelio'n uniongyrchol i Dribiwnlys Prisio Cymru.

Sylwer, gallwch chi apelio'n uniongyrchol i Dribiwnlys Prisio Cymru os na fyddwn ni wedi rhoi gwybod i chi ynghylch ein penderfyniad o fewn 2 fis ar ôl i chi gyflwyno 'hysbysiad ysgrifenedig' i'r Cyngor.

Gweler Apeliadau am fwy o wybodaeth.

Brig y Tudalen