Hawlio Budd-dal ar Ddau Gartref

Telir budd-dal fel arfer ond ar gyfer y cartref yr ydych yn byw ynddo ac yn talu rhent amdano ar hyn o bryd. Fodd bynnag, ceir rhai amgylchiadau lle medrwch gael cymorth ar gyfer dau gartref:

Ofn Trais

Pan ydych wedi gadael eich cartref blaenorol ac yn dal i fod yn absennol oddi yno am eich bod yn ofni trais naill ai yn eich cartref gan berson arall neu y tu allan i'ch cartref gan aelod blaenorol o'ch teulu, telir uchafswm o 52 wythnos. Er mwyn i fudd-dal gael ei dalu, mae'n rhaid eich bod yn bwriadu dychwelyd i fyw yn yr eiddo a adawoch.

Myfyrwyr neu Rai dan Hyfforddiant 

Gall cyplau sydd yn byw mewn llety ar rent ar wahân dderbyn budd-dal ar gyfer y ddau eiddo. Mae'n rhaid i'r Awdurdod Lleol ystyried bod llety ar wahân yn anorfod a'i bod yn rhesymol talu budd-dal ar ddau gartref. Nid oes cyfyngiad i'r ddarpariaeth hon.

Budd-dal ar ddau gartref yn gorgyffwrdd 

Fel arfer bydd pobl yn cynllunio symud cartref ymlaen llaw ac fel arfer byddant yn medru osgoi talu rhent ar ddau gartref drwy roi digon o rybudd i'r landlord blaenorol i ddod â'r denantiaeth i ben.

Fodd bynnag, os ydych wedi symud o un lle ar rent i le arall ar rent a'ch bod yn parhau i dalu rhent am y rhybudd sydd angen ei roi ar eich cartref blaenorol, bydd yr Awdurdod Lleol ond yn ystyried rhoi budd-dal ar y ddau eiddo am bedair wythnos fan bellaf ar yr amodau canlynol:

  • 1.dim ond am y cyfnod ar ôl i chi symud i'ch cartref newydd
  • 2. dim ond os na ellid o fewn rheswm osgoi talu rhent ar y ddau gartref.

Teuluoedd Mawr 

Os oes gennych deulu mawr a bod yr Awdurdod Lleol wedi eich rhoi mewn dau le ar wahân, telir budd-dal ar y ddau eiddo.