Beth yw taliad estynedig o Fudd-dâl Tai/Lwfans Tai Lleol a/neu gostyngiad estynedig Gostyngiad Treth y  Cyngor? 

Menter gan y Llywodraeth (UD a Cymru) yw hon i gynorthwyo pobl i symud oddi ar fudd-daliadau i fyd gwaith.

Gellir gwneud taliad estynedig a/neu gostyngiad estynedig pan fyddwch wedi bod yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith (ar sail incwm), Budd-dâl Analluogrwydd, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Lwfans Anabledd Difrifol yn barhaol am 26 wythnos a'i fod yn dod i ben oherwydd eich bod chi neu'ch cymar (lle bo'n berthnasol) wedi dechrau gweithio'n llawn amser neu fod eich oriau neu'ch enillion yn eich gwaith presennol yn cynyddu.

Brig y tudalen

A fydd hawl gennyf gael taliad estynedig a/neu gostyngiad estynedig?

Mae hawl gennych gael taliad estynedig a/neu gostyngiad estynedig:

  • os byddwch chi neu'ch cymar (lle bo'n berthnasol) yn dechrau swydd newydd neu fod eich oriau neu'ch enillion yn eich gwaith presennol yn cynyddu a bod disgwyl i'r gwaith bara pum mlynedd neu fwy ac
  • os buoch chi neu'ch cymar (lle bo'n berthnasol) yn hawlio Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith (ar sail incwm), Budd-dâl Analluogrwydd, Lwfans Anabledd Difrifol neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn barhaol am 26 wythnos fan leiaf yn syth cyn i chi ddechrau gweithio neu fod eich oriau neu'ch enillion yn eich gwaith presennol yn cynyddu ac
  • os bydd rhaid i chi neu'ch cymar (lle bo'n berthnasol) dalu rhent a/neu'r Dreth Gyngor am gyfnod llawn y taliad estynedig / gostyngiad estynedig.

Brig y tudalen

Beth fydd hawl gennyf ei gael os byddaf yn gymwys i gael taliad estynedig a/neu gostyngiad estynedig?

Os byddwch yn gymwys, bydd hawl gennych gael hyd at bedair wythnos o Fudd-dâl Tai/Lwfans Tai Lleol a/neu Gostyngiad Treth y  Cyngor a fydd yn daladwy yn ôl yr un gyfradd ag yr oeddech yn ei chael pan oeddech yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith (ar sail incwm), Budd-dâl Analluogrwydd, Lwfans Anabledd Difrifol neu Lwfans Cyflogaeth a Gwaith. Nid yw o bwys faint o arian y byddwch yn ei ennill yn y cyfnod hwnnw o bedair wythnos.

Brig y tudalen

Sut yr wyf yn hawlio taliad estynedig a/neu gostyngiad estynedig?

Os mai dim ond am daliad estynedig a/neu gostyngiad estynedig y dymunwch gael eich ystyried, rhaid i chi ddweud wrthom ar unwaith yn ysgrifenedig, dros y ffôn neu yn bersonol pan fyddwch chi neu'ch cymar (lle bo'n berthnasol) yn dechrau gwaith llawn amser neu fod eich oriau neu'ch enillion yn eich gwaith presennol yn cynyddu.

Wedyn, byddwn yn gwirio i weld a ydych yn gymwys i gael taliad estynedig a/neu gostyngiad estynedig a rhoi gwybod i chi am y canlyniad yn unol â hynny.

Os byddwch am gael eich ystyried am daliad estynedig a Budd-dâl Tai/Lwfans Tai Lleol a/neu gostyngiad estynedig a Gostyngiad Treth y Cyngor ar sail eich incwm newydd, gweler 'A allaf ddal i wneud cais am Fudd-dâl Tai/Lwfans Tai Lleol a/neu Gostyngiad Treth Gyngor?

Brig y tudalen

A allaf ddal i wneud cais am Fudd-dâl Tai/Lwfans Tai Lleol a/neu Gostyngiad Treth y Cyngor?

Er mwyn ein galluogi i ystyried a ydych yn gymwys am Budd-dâl Tai/Lwfans Tai Lleol a/neu Gostyngiad Treth y Cyngor ar sail eich incwm newydd bydd angen i chi gwblhau Ffurflen Newid Amgylchiadau sydd ar gael i'w lawrlwytho o'r dudalen Ffurflenni Cais neu'r tudalen Newidiadau a allai effeithio ar eich hawl i fudd-dal. Fel arall, gallwch gysylltu â'r Awdurdod Lleol trwy e-bostio revenues@ceredigion.gov.uk, neu ffonio 01970 633252 neu drwy ysgrifennu at yr Awdurdod Lleol yn y cyfeiriad a nodir ar y dudalen Rhestr Gyswllt a bydd ffurflen yn cael ei hanfon atoch. Gallwch hefyd ymweld ag un o'n Swyddfeydd Ardal Lleol i gasglu ffurflen.

Gallwch ddychwelyd y ffurflen wedi ei chwblhau trwy e-bostio revenues@ceredigion.gov.uk neu ei phostio at yr Awdurdod Lleol yn y cyfeiriad a nodir ar y dudalen Rhestr Gyswllt neu ewch â hi i'ch Swyddfa Ardal Leol.

Hefyd, bydd yn rhaid i chi roi tystiolaeth ddogfennol o'ch holl incwm wythnosol, eich cyfalaf a'ch cynilion, pan fo hynny ar gael. Gweler 'Rhestr Wirio Tystiolaeth Ddogfennol'i gael mwy o wybodaeth.

Brig y tudalen