Beth sy'n digwydd os ydw i'n absennol o'm cartref dros dro?

Fel arfer, mae Budd-dal Tai, Lwfans Tai Lleol a/neu Gostyngiad Treth y Cyngor yn daladwy dim ond pan yr ydych yn byw yn yr eiddo. Fodd bynnag, mae'n bosibl y gellid talu budd-dal/gostyngiad o hyd os ydych yn absennol o'ch cartref dros dro mewn amgylchiadau penodol.

Mae'n rhaid i chi ein hysbysu yn ysgrifenedig os ydych yn mynd i fod yn absennol o'ch cartref dros dro ac yn dymuno parhau i hawlio budd-dal/gostyngiad. Dylech gadarnhau'r ar ba ddyddiad yr ydych yn gadael a pha ddyddiad yr ydych yn gobeithio dychwelyd i'ch cartref, yn ogystal â rhoi manylion ynglyn â ble'r ydych yn aros. Mae'n bwysig eich bod yn ein hysbysu pan yr ydych yn dychwelyd i'ch cartref.

Brig y Tudalen

A fedraf fod yn gymwys am fudd-dal/gostyngiad os ydw i'n absennol o'm cartref dros dro?

Mae'r hyd o amser y gallwch barhau i hawlio budd-dal/gostyngiad pan fyddwch yn absennol yn dibynnu ar y rheswm dros eich absenoldeb ac a yw eich absenoldeb y tu allan i Brydain Fawr. Gall rhai pobl barhau i hawlio am 4, 8, 13, 26 neu 52 o wythnosau. Yn bob achos, mae'n rhaid i chi fodloni'r holl amodau canlynol:

  • mae'n rhaid i chi fod yn fodlon dychwelyd i fyw yn yr eiddo pan ddaw'ch absenoldeb i ben; a
  • mae'n rhaid i chi (neu eich landlord – os yw'n berthnasol) beidio ag isosod eich cartref pan yr ydych yn absennol; a
  • mae'ch absenoldeb o'ch cartref arferol yn annhebygol o bara'n hirach na 4, 8, 13, 26 neu 52 o wythnosau

Brig y Tudalen 

Beth sy'n digwydd os ydw i'n symud i gartref gofal preswyl?

Os yr ydych yn symud i gartref gofal preswyl am gyfnod prawf, mae'n bosibl y gallwch hawlio budd-dal/gostyngiad am hyd at 13 wythnos os ydych yn bodloni'r holl amodau canlynol:

  • Yr ydych yn mynd i'r cartref gofal preswyl er mwyn canfod a yw'n addas i'ch anghenion; ac
  • yr ydych yn bwriadu dychwelyd i fyw yn eich cartref arferol os nad yw'r cartref gofal preswyl yn addas i chi; a
  • Mae'n rhaid i chi (neu'ch landlord – os yw'n berthnasol) beidio ag isosod eich cartref arferol pan yr ydych yn absennol

Os yr ydych yn symud i gartref gofal preswyl er mwyn derbyn gofal dros dro, mae'n bosibl y gallwch hawlio budd-dal/gostyngiad am hyd at 52 wythnos os yr ydych yn bodloni'r holl amodau canlynol:

  • mae'n rhaid bod gennych fwriad pendant o ddychwelyd i'ch cartref arferol; a
  • mae'n rhaid i chi (neu'ch landlord – os yw'n berthnasol) beidio ag isosod eich cartref arferol wrth i chi dderbyn gofal dros dro; a
  • mae'ch absenoldeb o'ch cartref yn annhebygol o bara'n hirach na 52 wythnos

Os penderfynwch breswylio'n barhaol mewn cartref gofal preswyl ni fyddwch mwyach yn gymwys am Fudd-dal Tai, Lwfans Tai Lleol na Gostyngiad Treth y Cyngor. Er mwyn osgoi gordalu fe fydd angen i chi rhoi cadarnhad ysgrifenedig ar unwaith i'r Awdurdod Lleol os nad ydych yn aros yn y cartref gofal dros dro mwyach.

Mewn rhai amgylchiadau gallwch fod yn gymwys am fudd-dal am hyd at bedair wythnos ar gyfer unrhyw gyfnod rhybudd cyn gadael eich cartref blaenorol.

Brig y Tudalen

Os ydych am mwy o wybodaeth am reolau absenoldeb dros dro gallwch gysylltu â'r Awdurdod Lleol trwy e-bostio revenues@ceredigion.gov.uk, ffonio 01970 633 252 neu drwy ysgrifennu at yr Awdurdod Lleol yn y cyfeiriad a nodir ar y dudalen Rhestr Gyswllt. Gallwch hefyd ymweld ag un o'n Swyddfeydd Ardal Lleol.