Beth yw'r Lwfans Tai Lleol?

Cafodd y Lwfans Tai Lleol i gyflwyno ar 07 Ebrill 2008 ac caiff i ddefnyddio i cyfrifo rhan fwyaf o ceisiau newydd Budd-dal Tai i tenantiaid sy'n byw mewn llety â rhent preifat.

Lluniwyd y Lwfans Tai Lleol i fod yn ddull tecach a symlach o gyfrifo Budd-dâl Tai i bobl sydd ar incwm isel. Mae'r cynllun yn newid y modd y cyfrifir swm uchaf y budd-dâl a ganiateir a'r modd y'i telir.  

Lwfans tai safonol yw'r Lwfans Tai Lleol ar maint aelwyd y tenant ac nid yr union rent a gwyd y landlord ar gyfer yr eiddo. Mae hynny'n golygu y bydd hawl gan denantiaid ar aelwydydd sydd â'r un meini prawf ac sy'n byw yn yr un ardal gael yr un gyfradd o'r Lwfans Tai Lleol.

Brig y Tudalen

A fydd y Lwfans Tai Lleol yn effeithio arnaf?

Bydd y Lwfans Tai Lleol yn effeithio arnoch os:  

  • Byddwch yn gwneud cais newydd
  • Byddwch yn newid eich cyfeiriad, neu
  • Fod seibiant yn eich hawl i Fudd-dâl Tai sy'n wythnos neu fwy o hyd      

Nid yw'r Lwfans Tai Lleol yn effeithio ar y canlynol:

  • Tenantiaid Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymdeithas Dai)
  • Tenantiaid sydd â rhent cofrestredig neu 'deg'
  • Tenantiaethau a ddechreuodd cyn 1989
  • Achosion o Fudd-dâl Tai wedi'i ddiogelu, megis tai â chymorth a ddarperir gan Landlordiaid Cymdeithasol, Elusennau neu Sefydliadau Gwirfoddol
  • Tenantiaethau mewn carafannau, cychod preswyl neu hostelau
  • Tenantiaethau lle bo'r rhent yn cynnwys swm sylweddol gogyfer â phrydau bwyd

Os bydd eich cais yn disgyn i un o'r categorïau hyn, cyfrifir eich Budd-dâl Tai o dan y rheolau presennol.

Brig y Tudalen 

Sut y mae'r Lwfans Tai Lleol yn gweithio?

Mae'r Gwasanaeth Swyddogion Rhent, sef asiantaeth annibynnol, yn gyfrifol am bennu'r Ardaloedd Marchnad Rentu Eang a chyfraddau'r Lwfans Tai Lleol. Mae un ardal marchnad rentu eang yng Ngheredigion.

Mae Gwasanaeth y Swyddogion Rhenti'n darparu set o gyfraddau ar gyfer yr Awdurdod Lleol sy'n cynnwys tai a rennir hyd at dai â phedair ystafell wely.  

Bydd nifer yr ystafelloedd gwely y bydd hawl gennych iddynt yn seileidig ar nifer, oedran a rhyw'r bobl sy'n byw gyda chi ar yr aelwyd. Mae hawl gennych gael un ystafell wely (i'r uchafrif o bedair ystafell wely) fesul:

  • pob pâr o oedolion (priod neu ddibriod)
  • unrhyw oedolyn arall 16 oed a throsodd
  • unrhyw ddau blentyn o'r un rhyw o dan 16 oed
  • unrhyw ddau blentyn o dan 10 oed
  • unrhyw blentyn arall
  • gofalwr dros nos sydd ddim yn breswylio yn eich ty fel arfer - gwelwch 'A oes angen gofal nos arnoch chi neu eich partner?'

Bydd hawl gan geiswyr sengl o dan 35 oed gael cyfradd y Lwfans Tai Lleol sy'n berthnasol i un ystafell wely lle y rhennir cyfleusterau - gwelwch 'Beth os wyf o dan 35 oed?'. Bydd hawl gan geiswyr sengl sydd dros 35 oed a pharau di-blant gael cyfradd y Lwfans Tai Lleol sy'n berthnasol i lety hunangynhwysol ag un ystafell cyn belled ag y byddant yn rhentu eiddo o'r maint hwnnw fan leiaf.

Ni ellir cynnwys plentyn/plant sydd yn aros gyda chi ar benwythnosau yn unig fel rhan o'ch aelwyd oni bai eich bod yn cael Budd-dâl Plant ar eu cyfer.

Brig y Tudalen 

Beth os wyf o dan 35 oed?

Mae rheolau'r Llywodraeth yn cyfyngu ar faint o Fudd-dal Tai/Lwfans Tai Lleol y gall pobl sengl o dan 35 nad oes plant yn byw gyda nhw ei hawlio. Byddwch yn gallu hawlio Cyfradd Llety a Rennir (SAR) yn unig i'ch helpu chi gyda'r rhent.

Cewch eich eithrio rhag Cyfradd Llety a Rennir o dan yr amgylchiadau isod:-

  • Os ydych o dan 22 oed ac yr oeddech yn arfer bod yng ngofal y Gwasanaethau Cymdeithasol,
  • Mae gennych chi ofalwr dibreswyl sy'n aros gyda chi yn rheolaidd er mwyn gofalu amdanoch chi,
  • Mae gennych hawl i gael y Premiwm Anabledd Difrifol wedi ei gynnwys wrth gyfrif eich budd-dal oherwydd eich bod chi'n cael cyfradd ganol neu uchaf elfen ofal Lwfans Byw'r Anabl, yr elfen o'r Taliad Annibyniaeth Bersonol sy'n ymwneud â Bywyd Beunyddiol neu Daliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
  • Yr ydych rhwng 25 a 35 oed ac yr ydych chi wedi treulio o leiaf 3 mis mewn hostel arbennig ar gyfer y digartref,
  • Yr ydych yn gyn-droseddwr sy'n peri risg i'r cyhoedd

 Brig y Tudalen

A oes angen gofal nos arnoch chi neu eich partner?

Efallai y bydd hawl gennych chi i gynnydd yng nghyfradd eich Lwfans Tai Lleol os oes angen gofal nos arnoch chi neu eich partner.

I fod yn gymwys i gael y cynnydd hwnnw, bydd angen eich bod chi neu eich partner yn derbyn Lwfans Gweini neu elfen ofal Lwfans Byw'r Anabl ar y gyfradd uchaf neu'r gyfradd ganol neu o fis Ebrill 2013 ymlaen, yr elfen o'r Taliad Annibyniaeth Bersonol sy'n ymwneud â bywyd beunyddiol neu Daliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog. Hefyd bydd angen i chi gyflwyno digon o dystiolaeth i'r Awdurdod i ddangos bod angen gofal nos arnoch chi e.e. llythyr gan eich meddyg, tystysgrif anabledd, ac ati.

Ni ddylai eich gofalwr breswylio yn eich tŷ chi fel cartref iddo a bydd angen bod ystafell wely ar gael ar gyfer y gofalwr dros nos.

Brig y Tudalen 

Faint o Lwfans Tai Lleol y byddaf yn ei gael?

Nid oes dim newid yn y rheolau hawlio budd-dâl; mae'r swm y byddwch yn ei gael yn dal i ddibynnu ar yr arian sy'n dod i mewn bob wythnos, faint o gynilion sydd gennych a phwy arall sy'n byw gyda chi.

Cyfradd uchaf y Lwfans Tai Lleol o ran eich hawliad chi yw'r gyfradd ym mis Ebrill y flwyddyn ariannol yr hawliwch chi h.y. bydd cyfraddau Lwfans Tai Lleol Ebrill 2021 yn gymwys ar gyfer hawliadau a wneir neu yr ystyrir eu bod wedi eu gwneud yn ystod y cyfnod 01/04/2023 hyd 31/03/2024

Gweld y cyfraddau presennol

Brig y Tudalen

Beth os mae'r rhent a gwyd fy Landlord yn fwy  na chyfradd y Lwfans Tai Lleol?

Bydd gwybod ymlaen llaw faint yw cyfradd uchaf y Lwfans Tai Lleol a fydd yn berthnasol i chi yn rhoi'r dewis i chi o'r eiddo lle y gallwch fforddio byw.

Os dewiswch rentu eiddo lle bo'r union rent a godir yn uwch na chyfradd y Lwfans Tai Lleol, bydd yn rhaid i chi dalu'r gwahaniaeth i'ch landlord.

Os eich gorfodir i rentu eiddo lle bo'r union rent a godir yn uwch na chyfradd y Lwfans Tai Lleol yna gallech ystyried gwneud cais am Daliadau Tai Dewisol

Brig y Tudalen

Am ba hyd y bydd fy Lwfans Tai Lleol yn para?

Caiff cyfraddau'r Lwfans Tai Lleol eu hadolygu'n flynyddol ddechrau mis Ebrill bob blwyddyn oni fydd newid yn eich amgylchiadau a fydd yn effeithio ar nifer yr ystafelloedd gwely a ddefnyddir i gyfrifo'r Lwfans Tai Lleol, er enghraifft, os bydd rhywun yn symud i mewn neu allan o'ch eiddo chi.

Brig y Tudalen

Gofynnais am gael fy nghais wedi'i ôl-ddyddio. Ar sail pa un o gyfraddau'r Lwfans Tai Lleol y bydd fy nghais

Os byddwch yn gofyn i'ch cais gael ei ôl-ddyddio a'n bod yn cytuno ar hynny, bydd cyfradd eich Lwfans Tai Lleol ar sail y ffigyrau sy'n berthnasol i'r flwyddyn ariannol y gofynnoch i'ch cais ddechrau ynddo. 

Gweler Ôl-ddyddio i gael mwy o wybodaeth.

Brig y Tudalen

Hoffwn fod fy Lwfans Tai Lleol yn cael ei dalu i'm landlord. Oes modd gwneud hynny?

Gwneir taliadau'r Lwfans Tai Lleol fel arfer yn uniongyrchol i chi a'ch cyfrifoldeb fydd talu'r rhent i'ch landlord. Mae mesurau diogelwch yn eu lle sy'n caniatáu i'r Awdurdod Lleol wneud taliadau uniongyrchol yn yr amgylchiadau canlynol:

  • Lle bo'r Adran Gwaith a Phensiynau yn gwneud didyniadau o Gymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Gredyd Pensiwn y tenant i wneud ôl-daliadau rhent.
  • Lle bo ôl-daliadau rhent o wyth wythnos neu fwy a bod yr Awdurdod Lleol yn ystyried ei bod er budd pwysig y tenant gwneud taliadau uniongyrchol.  
  • Lle bo'r Awdurdod Lleol yn penderfynu bod y tenant yn methu ag ymdrin â'i faterion ariannol. 

Yn ogystal â'r rheolau presennol, bellach gallwn dalu'r landlord os yw wedi helpu sicrhau neu gadw eich tenantiaeth trwy godi rhent llai y medrwch chi ei fforddio (fel rheol bydd hynny ar lefel y Lwfans Tai Lleol neu'n is).

Gweler Polisi Mesurau Diogelwch a Nodiadau Cyfarwyddyd ar y Polisi Mesurau Diogelwch i gael mwy o wybodaeth.

Brig y Tudalen


Rwyf yn symud i gartref newydd. Sut y gallaf ddarganfod beth fydd swm uchaf fy Lwfans Tai Lleol?

Bydd angen i chi:

 Brig y Tudalen

Beth a fydd yn digwydd os bydd newid yn nifer y bobl sy'n preswylio ar fy aelwyd?

Os bydd rhywun yn symud i mewn neu allan o'ch aelwyd, rhaid i chi ddweud wrthom ar unwaith. Wedyn, byddwn yn newid eich budd-dâl uchaf hyd at gyfradd gywir y Lwfans Budd-dâl Tai ar gyfer nifer angenrheidiol ystafelloedd gwely eich aelwyd.

Gallai peidio â rhoi gwybod i'r Awdurdod Lleol cyn pen un mis calendr am y newid olygu na fyddwn yn talu digon o fudd-dâl a gallech beidio â chael arian y mae hawl gennych iddo neu gallai olygu yr ydym yn eich gordalu ac y byddwch yn gorfod ei ad-dalu yn ddiweddarach.

Brig y Tudalen

Rwyf yn anghytuno â chyfradd y Lwfans Tai Lleol. A allaf apelio?

Nid oes hawl apelio yn erbyn cyfraddau'r Lwfans Tai Lleol na dim un rhan o benderfyniad y Gwasanaeth Rhenti gan y gallai apêl godi amheuon am y lefel a bennwyd ar gyfer yr ardal gyfan. Byddai unrhyw newidiadau i'r rhenti uchaf a gyhoeddir yn gofyn i'r Awdurdod Lleol glustnodi ac addasu pob cais a wnaed sy'n defnyddio'r gyfradd honno. Byddai'n tanseilio pa mor dryloyw a sicr yw'r cynllun i gwsmeriaid eraill.

Brig y Tudalen