Ar 25ain Medi 2018 mabwysiadodd Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ei Pholisi Gorfodi Corfforaethol. Mae'r polisi hwn yn nodi'r ymagwedd y bydd yr Awdurdod yn ei gymryd wrth ymchwilio i faterion a sut y bydd yn gwaredu materion o'r fath.

Mae'r polisi yn bolisi trosfwaol sy'n berthnasol i holl wasanaethau'r Cyngor sydd ag agwedd orfodi. Roedd y polisi yn destun ymgynghoriad cyhoeddus hir a bydd o ddiddordeb arbennig i fusnesau y gellid effeithio arnynt.

I'r graddau y mae'r polisi dan sylw, amcanion y Cyngor fydd:

  • Sicrhau ein bod yn gorfodi'r gyfraith mewn dull theg a chyson
  • Cynorthwyo a chynghori busnesau ac eraill wrth gwrdd â'u rhwymedigaethau cyfreithiol
  • Canolbwyntio ar atal yn hytrach na gwella
  • Cymryd camau cadarn yn erbyn y rhai sy'n anwybyddu'r gyfraith, yn ymddwyn yn anghyfrifol, neu os oes risg uniongyrchol i iechyd a diogelwch
  • Cefnogi cynnydd economaidd trwy fynd i'r afael â'r rhai sy'n masnachu mewn modd sy’n annheg i'r rhai sy'n dewis cydymffurfio â gofynion cyfreithiol

Mae'r defnydd priodol o'r ystod lawn o bwerau gorfodi, gan gynnwys erlyniad, yn bwysig, er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'r gyfraith ac i sicrhau bod y rhai sydd â dyletswyddau o dani yn cael eu dal i gyfrif am fethiannau i ddiogelu iechyd, diogelwch a lles neu’n torri'r unrhyw ddeddfwriaeth arall a orfodir gan y Cyngor.

Wrth benderfynu ar y camau gweithredu mwyaf priodol, disgwylir i swyddogion ystyried yr egwyddorion a nodir yn y polisi hwn a'r angen i gynnal cydbwysedd rhwng gorfodi a gweithgareddau eraill, gan gynnwys arolygu ac addysgu.

Gellir darllen y Polisi Gorfodaeth o dan y sectiwn I'w lawrlwytho.