Croeso i’r dudalen archwilio mewnol.

Mae'r adain archwilio mewnol yn darparu gwasanaeth sicrwydd ac ymgynghori i bob gwasanaeth o fewn y Cyngor.

Mae'n gwneud hyn trwy werthuso prosesau rheoli mewnol, rheoli risgiau a llywodraethu.

Mae Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 – Rheol 7 yn dodi dyletswydd statudol ar y Cyngor i gynnal system archwilio mewnol digonol ac effeithiol o’i recordiau cyllidol a’i system o rheolau mewnol.

Diffiniad o Archwilio Mewnol

Cyflwynwyd Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus ym mis Ebrill 2013, ac maent wedi eu diweddaru ers hynny. Diffinnir archwilio mewnol yn y Safonau fel:

"Mae Archwilio Mewnol yn weithgarwch annibynnol ac ymgynghorol sy’n darparu sicrwydd gwrthrychol er mwyn ychwanegu gwerth a gwella gweithredu sefydliadau. Mae'n helpu sefydliad i wireddu ei amcanion trwy roi ymagwedd ddisgybledig a systematig ar waith i werthuso a gwella effeithiolrwydd y prosesau rheoli risgiau, rheolaeth a llywodraethu. Mae'r gweithgarwch Archwilio Mewnol yn gwerthuso ac yn cyfrannu at wella prosesau llywodraethu, rheoli risgiau a rheolaeth gan ddefnyddio dull systematig a disgybledig."

Felly mae archwilio mewnol yn gymorth i reolwyr - gall ychwanegu gwerth trwy weithio gyda gwasanaeth i wella effeithiolrwydd ei brosesau rheoli risgiau, rheolaeth a llywodraethu. Gall hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol wrth sefydlu system newydd, neu gyflwyno newidiadau i un sydd eisoes yn bodoli.

Mae’n bosib y gofynnir i archwilio mewnol hefyd wneud gwaith ymchwiliol mewn perthynas ag unrhyw dwyll / afreoleidd-dra sy'n codi, yn unol â Strategaeth y Cyngor ar Atal Twyll, Llygredd a Llwgrwobrwyo (i gynnwys Gwrth-Wyngalchu Arian).

Gwaith Archwilio Mewnol

Mae archwilio mewnol yn ymgymryd â'i waith yn unol â'i Siarter Archwilio Mewnol.

Amlinellir gwaith craidd blynyddol yr adain yn y Cynllun Archwilio Mewnol sy'n cwmpasu holl amgylchedd rheoli'r Cyngor. Mae hyn yn cynnwys cymysgedd o waith sicrwydd ac ymgynghorol, gyda diwrnodau wrth gefn ar gyfer gwaith heb ei gynllunio. Mae canlyniadau'r holl adolygiadau a wneir yn cyfrannu at Adroddiad Blynyddol y Prif Archwilydd Mewnol sy'n diweddu gyda barn ar sicrwydd o ran amgylchedd rheoli risgiau, rheolaeth a llywodraethu cyffredinol y Cyngor.

Gall y gwasanaeth archwilio mewnol cael ei ddarpar yn y Gymraeg neu Saesneg.