Mae Deddf Delwyr Metel Sgrap 2013 yn disodli’r hen system gofrestru ar gyfer delwyr metel sgrap a grëwyd gan Ddeddf Delwyr Metel Sgrap 1964. O dan y ddeddfwriaeth newydd, caiff y diffiniad o ddelwyr metel sgrap ei ehangu i gynnwys gweithredwyr adfer moduron.

Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn ei gwneud hi’n ofynnol i unrhyw berson sy’n casglu, prynu neu werthu metel sgrap yn ardal Cyngor Sir Ceredigion gael Trwydded Delwyr Metel Sgrap a roddir gan y Cyngor. Codir tâl am y drwydded hon.

Pwy sydd angen gwneud cais am drwydded?

Trwydded safle – Os oes gennych safle lle rydych yn rhedeg busnes sy’n delio â metel sgrap yn ardal Cyngor Sir Ceredigion, yna bydd angen i chi wneud cais am drwydded safle i weithredu’r safle hwnnw. Bydd y drwydded safle hon hefyd yn caniatáu i chi gludo metel sgrap i safleoedd trwyddedig eraill, ac oddi yno, yn ardal unrhyw awdurdod lleol.

Trwydded casglwr – Os ydych chi’n gweithredu fel casglwr metel sgrap yn ardal Cyngor Sir Ceredigion, yna mae angen i chi wneud cais am drwydded casglwr. Nid yw’r drwydded hon yn caniatáu i chi gasglu o unrhyw awdurdod lleol arall. Bydd angen i chi wneud cais am drwydded ymhob awdurdod lleol yr ydych eisiau gweithredu ynddo.

Noder: dim ond un math o drwydded y gall deliwr metel sgrap ei dal mewn awdurdod lleol. Rhaid i ymgeiswyr benderfynu pa drwydded sy’n addas iddynt wneud cais amdani gan nad ydynt yn gallu dal trwydded safle a thrwydded casglwr symudol o fewn yr un awdurdod trwyddedu.

Os caiff ei gollfarnu, gall unrhyw berson sy’n gweithredu fel deliwr metel sgrap heb drwydded dderbyn dirwy o hyd at £5,000.

Sut caiff fy nghais ei brosesu?

Os ydych chi’n gwneud cais am drwydded casglwr, rhaid i chi drefnu apwyntiad gyda’r tîm Trwyddedu er mwyn dilysu eich dogfennau hunaniaeth.

Cysylltwch â ni drwy e-bost ar licensing@ceredigion.gov.uk

Rhaid i chi wneud cais i gael trwydded a bydd ffi’n daladwy i’r Cyngor. Bydd hefyd angen i chi gyflwyno ffurflen datgeliad sylfaenol Datgelu a Gwahardd a wnaed o fewn y mis diwethaf, fel rhan o’r broses ymgeisio. Bydd angen i chi gyflwyno dau ffotograff diweddar, maint pasbort (cais ar gyfer trwydded casglwr yn unig). Bydd hefyd angen i ni weld dogfen adnabod gyda ffotograff ee pasbort neu drwydded yrru sydd â llun, a thystiolaeth o gyfeiriad, ee bil cyfleustodau neu cyfriflen banc.

Byddwn yn ymgynghori â’r Heddlu, Cyfoeth Naturiol Cymru ac adain Rheoli’r Amgylchedd ynghylch pob cais.

Nid yw cydsyniad mud yn berthnasol i’r cais hwn.

Os gwelwch yn dda, noder nad yw hyn yn disodli’r Drwydded Cludo Gwastraff. I gasglu metel sgrap yn ardal Cyngor Sir Ceredigion, bydd angen i chi ddal trwydded delwyr metel sgrap a roddwyd gan yr Awdurdod Lleol a Thrwydded Cludo Gwastraff a roddir gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Hyd y drwydded

Bydd trwydded, os caiff ei rhoi, yn ddilys am dair blynedd o’r dyddiad y’i rhoddwyd.

Cofrestr Trwyddedau

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n cadw cofrestr o’r trwyddedau metel sgrap a roddwyd gan awdurdodau yng Nghymru. Gall y cyhoedd weld y cofrestrau gan ddefnyddio’r ddolen isod.

Cyfoeth Naturiol Cymru:
A oes gan safle ganiatâd, trwydded neu esemptiad (Cofrestr Gyhoeddus)


Newidiadau ar gyfer ceisiadau am drwyddedau metel sgrap o fis Ebrill 2022

Darganfyddwch beth sydd angen i chi ei wneud i fodloni rheolau newydd os ydych yn gwneud cais am drwydded metel sgrap ar neu ar ôl 4 Ebrill 2022:

Newidiadau ar gyfer ceisiadau am drwyddedau tacsi, hurio preifat neu fetel sgrap o fis Ebrill 2022 ymlaen - GOV.UK (www.gov.uk)