Mae nifer yr ymweliadau gan ysgolion i ffermydd Cymreig wedi cynyddu'n ddiweddar, fel y mae nifer y plant sy'n mynd yn sâl oherwydd bacteria megis E.coli 0157 a Cryptosporidium. Yn yr erthygl hon gellir darganfod beth mae'r tim Iechyd a Diogelwch yn gwneud i herio'r broblem.

Mae bacteria megis E.coli 0157 a Cryptosporidium yn achosi salwch difrifol, sy'n gallu bod yn arbennig o aciwt mewn plant ifanc.

I ceisio lleihau'r niferoedd o achosion heintus yn y sector hon, mae staff yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) a staff Iechyd yr Amgylchedd o Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn gweithio mewn partneriaeth i godi ymwybyddiaeth o'r peryglon a sut y gellir eu rheoli. Cydnabyddir bod ymweliadau â ffermydd agored yn rhan werthfawr o addysg a datblygiad plant.

Mae dwy haen i'r prosiect Hylendid ar Ffermydd Agored:

  1. Caiff Awdurdodau Addysg Lleol becyn adnoddau i'w roi i athrawon sy'n cynllunio ymweliadau â'r lleoliadau hyn
  2. Ymweliadau ar y cyd gan staff yr HSE ac Awdurdodau Lleol i ffermydd agored i asesu eu harferion gwaith a'r rheolaethau sydd ganddynt i leihau'r risg o heintio ymwelwyr. Yn arbennig, byddwn yn sicrhau bod trefniadau digonol ar gyfer golchi dwylo, gan fod golchi dwylo yn gywir yn hanfodol er mwyn atal afiechyd

Drwy gynnal archwiliadau ar y cyd a chodi ymwybyddiaeth, gobeithir y bydd gostyngiad mewn achosion o salwch oherwydd E.coli 0157 a Cryptosporidium.