Cofrestr Tyrau Oeri - Dros y blynyddoedd diweddar bu nifer o achosion o afiechyd y lleng filwyr yn gysylltiedig â systemau oeri gwlyb (tyrau oeri a chyddwysyddion anweddol), sydd wedi arwain at rai achosion difrifol o heintiau a marwolaethau.

Gall diffygion cynnal a chadw systemau oeri gwlyb arwain at gyflyrau sy'n peri i'r afiechyd ymddangos. Gellir dod o hyd i wybodaeth fanwl am reoli afiechyd y Lleng filwyr yng Nghod Ymarfer Cymeradwyedig Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch 'L8 'Legionnaires' Disease - the control of legionella bacteria in water systems'. Am ragor o wybodaeth am Afiechyd y Lleng filwyr a'i reolaeth ewch i wefan Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Yr angen i gofrestru systemau oeri gwlyb

Mae Rheoliadau Hysbysu Tyrau Oeri a Chyddwysyddion Anweddol yn gofyn bod y rhai sydd yn rheoli adeiladau a chanddynt systemau oeri gwlyb yn eu cofrestru gyda'r awdurdod lleol, a'u hysbysu o unrhyw newidiadau dilynol, gan gynnwys pan fydd gwaith yn gorffen gweithredu. Er mai awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am gynnal a chadw cofnodion systemau oeri gwlyb, mae'r cyfrifoldeb dros orfodi safonau asesu a rheoli wedi eu rhannu rhwng Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a'r awdurdodau lleol.

Prif bwrpas y broses hysbysu hon yw nodi ble mae lleoliadau risg arfaethedig wedi eu lleoli gan ei gwneud yn haws i'r awdurdodau gorfodi nodi, monitro ac archwilio.

Mae gan unrhyw un sydd yn rheoli adeilad gyfrifoldeb o dan Hysbysiad Tyrau Oeri a Chyddwyswyr Anweddol - Nodiadau Cyfarwyddyd i roi gwybod i'r awdurdod lleol yn ysgrifenedig gyda manylion am dyrau oeri a chyddwysyddion anweddol (oni bai pan fyddant yn cynnwys dŵr nad yw mewn cysylltiad ag aer a phan nad yw'r cyflenwad dŵr ac aer wedi ei gysylltu).

Er mwyn cofrestru manylion tyrau oeri a chyddwysyddion anweddol defnyddiwch y ffurflen Hysbysiad Tyrau Oeri a Chyddwyswyr Anweddol - Ffurflen Gais. Ar ôl derbyn y ffurflen wedi'i chwblhau, bydd y Gofrestr yn cael ei diweddaru ac anfonir cydnabyddiaeth ymhen 14 diwrnod.

Mae'r gofrestr hysbysiad yn agored i'r cyhoedd a gellir cael crynodeb o'r adeiladau cofrestredig i'w lawrlwytho. Mae'r gofrestr yn cael ei diweddaru wrth i ychwanegiadau a newidiadau'n cael eu gwneud.