Mae Gorchmynion Cadwraeth Coed yn diogelu llawer o goed a choetiroedd yng Ngheredigion.
Rhoddir Gorchmynion Cadwraeth Coed ar goed, grwpiau o goed a choetiroedd ar sail eu tirwedd a gwerth mwyniant. Mae tua 200 o Orchmynion Cadwraeth Coed yn eu lle yng Ngheredigion.
Wrth wneud Gorchmynion Cadwraeth Coed, mae'r Cyngor yn cymryd y ffactorau canlynol i ystyriaeth:
- Byddai cael gwared ar goed yn cael effaith andwyol sylweddol ar yr amgylchedd a'r mwynhad a roddant i'r cyhoedd
- Mae'r coed yn weladwy o fan cyhoeddus
- Mae prydferthwch ynddo'i hun gan y coed yn eu cyfraniad i'r tirwedd
- Mae gwerth cadwraeth natur i'r coed neu mae iddynt gysylltiad diwylliannol
- Mae'r coed yn diogelu rhag datblygiadau'r dyfodol
Yn fyr, mae Gorchmynion Cadwraeth Coed yn atal dymchwel a thocio coed (neu wneud gwaith penodol arall) oni bai y ceir caniatâd yr awdurdod lleol yn gyntaf.
Ar ben hyn, diogelir hefyd goed mewn Ardaloedd Cadwraeth: rhaid rhoi rhybudd o 42 diwrnod i'r awdurdod lleol cyn gwneud y gwaith. Rhydd y cyfnod hwn gyfle i'r Cyngor roi Gorchymyn Cadwraeth Coed ar y coed neu'r goeden o dan sylw.
Caiff coed eu diogelu hefyd drwy'r drefn o drwyddedu torri coed, a weinyddir gan y Cyfoeth Naturiol Cymru.
Nodyn: mae'r gwybodaeth yma yn arweiniad yn unig ac dim yn darparu canllaw terfynol i'r cyfraith.
Mae'r gwrychoedd a'r cloddiau - nifer ohonynt yn hynafol - yn nodwedd amlwg o gefn gwlad Ceredigion ac yn gynefin i fywyd gwyllt.
Maent hefyd o fudd i amaethyddiaeth am eu bod yn cynnig lloches i dda byw.
Oherwydd y pryderon am nifer y gwrychoedd a gollwyd, cyflwynwyd rheoliadau ym 1997 i reoli'r broses o waredu'r gwrychoedd. Caiff y system yma ei gweinyddu gan awdurdodau lleol.
Gwneud cais am Hysbysiad Cael Gwared â Gwrych
Cyfarwyddyd Gwrych - Nodiadau Cais
Noder: rhoddir y wybodaeth hon fel arweiniad yn unig nid yw'n ganllaw terfynol o'r sefyllfa gyfreithiol.
Coed yn Panteg, Heol Llanbadarn, Aberystwyth