Ar ôl derbyn cais oddi wrth bobl Ceinewydd, yn 1992, cafodd ffin yr Arfordir Treftadaeth ei ymestyn un filltir fôr tua'r môr.

Ffotograffydd yn tynnu llun o'r arfordir

Roedd y cais yn tanlinellu pa mor bwysig yw bywyd gwyllt arbennig y môr gan gynnwys y Dolffiniaid Trwyn Potel i'r gymuned leol.

Ers hynny, bu'r gymuned leol a'r Cyngor Sir yn gweithio mewn partneriaeth i warchod cymeriad arbennig yr Arfordir Treftadaeth Forol. Y cynllun gwirfoddol hwn oedd y cyntaf o'i fath ym Mhrydain. Cyflwynwyd amrywiaeth o fesurau rheoli, gan gynnwys Cod Ymddygiad ar gyfer cychod hamdden ac mae'r gwaith rheoli wedi ei gynnwys yn Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion, a ddynodwyd yn 2004.

Bob blwyddyn, mae cannoedd o wirfoddolwyr ymroddedig yn cymryd rhan yn y digwyddiad 'Gwylio'r Dolffiniaid' ar hyd arfordir Ceredigion. Mae'r cynllun yn rhoi adborth gwerthfawr i'r Cod Ymddygiad, gan fonitro sut mae dolffiniaid trwyn potel a chychod yn defnyddio safleoedd allweddol ar hyd arfordir Ceredigion. Pe hoffech chi ddod yn rhan o'r cynllun Gwylio Dolffiniaid cysylltwch â Melanie Heath, y Swyddog Ardal Forol Warchodedig ar 01545 561074 neu ar e-bost melanie.heath2@ceredigion.gov.uk.