Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Pencampwriaethau Rasio Ffordd Cenedlaethol Lloyds

Aberystwyth, 28 Mehefin 2026.

Bydd y beicwyr a gystadlodd yn 2025 yn ôl ar lwybrau cyfarwydd yn ardal Aberystwyth gan fod y llwybr yn debyg i’r un a gafwyd y llynedd. Ar ôl cael eu cyflwyno a dechrau arni ger y prom, bydd ras y ffordd yn bwrw allan o’r dref tua Llanfarian ac mor bell â Thrawsgoed ar lap ddeniadol ond heriol, 23.4 cilomedr o hyd, yn erbyn cyfeiriad y cloc.  Byddant yn dychwelyd i Aberystwyth heibio’r Gors. Bydd y peloton yn cwblhau tair lap yn ras y merched, a phum lap yn ras y dynion, cyn i’r ymgiprys symud i’r gylchdaith ar y diwedd.

Bydd y gylchdaith ar y diwedd yn 12.4 cilomedr o hyd – pedair lap i’r merched, a phum lap i’r dynion – gan ddefnyddio’r man cychwyn a gorffen ar lan y môr fel y canolbwynt. Bydd y gylchdaith yn rhedeg ar hyd y promenâd yn ei gyfanrwydd bron â bod, heibio i’r hen goleg a’r castell cyn dod i fan technegol drwy’r hen harbwr ac wrth bont Trefechan.

Bydd y cwrs yn profi’r coesau gan fod rhaid dygymod â graddiant o 8.7% yn Southgate ar bob lap. Bydd y ddisgynfa serth a chul o Moriah yn ôl i briffordd yr A44 yn brawf o allu’r cystadleuwyr i drin y beic cyn iddynt gyrraedd cilomedrau olaf pob pencampwriaeth ac anelu yn ôl am y dref. Byddant yn gorffen ar y prom ar ôl 128 cilomedr o rasio yn achos y merched a 187 cilomedr yn achos y dynion.

Amser dechrau:

  • Elît/U23 Menywod: 08:45
  • Elît/U23 Agored: 13:45

Mwy o wybodaeth ar wefan British Cycling.