Pencampwriaethau Prawf Amser Cenedlaethol Lloyds
Llanbedr Pont Steffan, 25 Mehefin 2026.
Ar gyfer cwrs newydd y Ras yn erbyn y Cloc eleni bydd y beicwyr yn anelu am dref farchnad hyfryd Llanbedr Pont Steffan. Bydd yn cychwyn nepell o gampws Prifysgol Cymru yn Llambed, a bydd cwrs newydd y gylchdaith yn ymlwybro heibio i gaeau glas a bryniau prydferth yr ardal.
Bydd ffyrdd bryniog yr ardal yn cyrraedd graddiant o 4.9% ar ei uchaf. Bydd y beicwyr yn bwrw allan o Lambed tuag at bentref Llanfair Clydogau. Ar ôl pasio heibio i neuadd y pentref bydd y beicwyr yn dychwelyd yn ôl i Lambed drwy bentref Cellan a chyrion Cwmann, cyn croesi’r llinell derfyn wrth iddynt groesi Afon Teifi. Prawf rhagorol i’r beicwyr.
Bydd y merched elît, merched dan 23 a’r dynion dan 23 yn cwblhau dwy lap gan roi pellter o 25.6 cilomedr i’r ras, a bydd y dynion elît yn cwblhau tair lap dros gyfanswm o 38.4 cilomedr.
Amser dechrau:
- Dynion U23: 09:00
- Menywod elît: 10:45
- Menywod U23: 13:40
- Dynion elît: 14:50
Gorffen: tua 17:00
Mwy o wybodaeth ar wefan British Cycling.
