Mae yno filoedd o bobl anabl - yn cynnwys 40,000 o bobl ag anableddau dysgu dwys a lluosog - sy'n methu cael mynediad i doiledau cyhoeddus sy'n bodloni'u hanghenion.
Mae toiledau 'Changing Places' yn wahanol i'r toiledau safonol i bobl anabl, gyda mwy o gyfarpar a lle i fodloni anghenion pobl ag anableddau dwys, a'u gofalwyr.
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn falch o gynnig y cyfleusterau 'Changing Places' hyn i drigolion ac ymwelwyr anabl Ceredigion:-
Manylion
Swyddfeydd y Cyngor Sir:-
Cyngor SirCeredigion
Canolfan Rheidol
Rhodfa Padarn
Aberystwyth
SY23 3UE
01970 633005
Oriau Agor
Llun – Iau 9.00am – 5.00pm
Gwener 9.00am – 4.30pm
Cyfarpar
Mainc newid
Uchder amrywiol
Maint oedolyn
Yn sefyll ar ei phen ei hun
Smirthwaite
Teclyn Codi
Trac ar y nenfwd
Guldman
Tolied ar ganol y wal
Bin mawr ar gyfer padiau
Larwm argyfwng
Llawr gwrthlithro
Sgrin/llen er preifatrwydd
Gofod
Lle digonol ar gyfer unigolyn anabl pan nad ydyw yn ei gadair /chadair olwyn, y gadair olwyn, ac un neu ddau ofalwr.
Maint yr ystafell = lled 3.5m x hyd 3.1m
Diogelwch
Nid oes clo ar y toiled – ond ceir swyddogion diogelwch, gweinyddion yr adeilad, staff gwasanaeth cwsmer a glanhawyr ar y safle drwy'r amser pan fo'r adeilad ar agor.
Hylendid
Glân
Wedi'u cynnal a'u cadw'n dda
Lle
Llawr gwaelod – oddeutu 7 metr o'r brif fynedfa (ar y dde).
Arwyddion
Defnyddir arwyddion 'Changing Places' ar y cyfleusterau.
Pwy all ddefnyddio'r toiled 'Changing Places'
Unrhyw un yn yr ardal sy'n dymuno'i ddefnyddio.