Gan ddefnyddio ei bwerau o dan adran 56 o Ddeddf Tai 2004 ac ar ôl ymgynghori â thrigolion y sir, penderfynodd Cyngor Sir Ceredigion gyflwyno Cynllun Trwyddedu Ychwanegol mewn rhannau penodol o’r sir yr oedd yn tybio y byddent yn elwa ar gynllun o’r fath. Mae hyn yn golygu bod angen i berchnogion rhai mathau ychwanegol o Dai Amlfeddiannaeth yn yr ardaloedd hyn wneud cais i gael trwydded Tai Amlfeddiannaeth. Mae’r gofynion trwyddedu gorfodol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth (Rhan 2, Deddf Tai 2004) yn dal i fod yn berthnasol i’r sir gyfan.

O ran Tai Amlfeddiannaeth a feddiannwyd gan dri neu ragor o bobl gan ffurfio tri neu fwy o deuluoedd ar wahân, waeth beth fo nifer y lloriau, yn wardiau'r Sir canlynol:

  • Aberystwyth - Gogledd
  • Aberystwyth - Canol
  • Aberystwyth - Penparcau
  • Aberystwyth - Rheidol
  • Aberystwyth - Bronglais
  • Llanbadarn Fawr - Padarn
  • Llanbadarn Fawr - Sulien
  • Faenor

O ran tai Amlfeddiannaeth a feddiannwyd gan bump neu ragor o bobl, gan ffurfio dau neu fwy o deuluoedd ar wahân, waeth beth fo nifer y lloriau, mae yr holl Sir yng nghynnwys.

O ran Tai Amlfeddiannaeth adran 257, mae’r sir gyfan wedi’i chynnwys.

Daeth y cynllun trwyddedu ychwanegol hwn i rym ar 14eg Ebrill 2019 a bydd ar parhau am bum mlynedd.