Hysbysiad Preifatrwydd ECO4/GBIS Flex
Mae gan Gyngor Sir Ceredigion ddyletswydd i wella iechyd a llesiant y boblogaeth y mae'n ei gwasanaethu. Mae hyn yn cynnwys yr amcan i leihau tlodi tanwydd ar draws Ceredigion. Un o'r ffyrdd y mae'r Cyngor yn gwneud hyn yw trwy weithio gyda phartneriaid cyflenwi o dan ECO4/GBIS Flex i helpu i wella'r stoc tai lleiaf ynni-effeithlon a feddiannir gan aelwydydd incwm isel, agored i niwed a thanwydd tlawd.
Bydd y Cyngor yn trin yr holl ddata personol a brosesir ar gyfer ECO4/GBIS Flex yn unol â gofynion yr holl ddeddfwriaeth diogelu data a phreifatrwydd berthnasol sydd mewn grym o bryd i'w gilydd yn y DU gan gynnwys UK GDPR, Deddf Diogelu Data 2018 (a rheoliadau a wneir oddi dani), a Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig 2003 (OS 2003/2426) fel y'u diwygiwyd. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut mae data personol yn cael ei ddefnyddio a'i storio gan y Cyngor mewn perthynas ag ECO4/GBIS Flex. Gellir gweld Hysbysiad Preifatrwydd cyffredinol y Cyngor ar ein tudalen Hysbysiad Preifatrwydd.
Beth yw data personol?
Mae data personol yn golygu unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud ag unigolyn byw adnabyddedig neu adnabyddadwy.
Beth yw data categori arbennig?
Data categori arbennig yw data personol sydd angen mwy o ddiogelwch oherwydd ei fod yn sensitif. Yn achos ECO4/GBIS Flex, mae data categori arbennig yn cyfeirio at y wybodaeth sy'n ymwneud ag iechyd yr unigolyn byw adnabyddedig neu adnabyddadwy.
Y dibenion rydym yn defnyddio eich data personol ar eu cyfer – pam rydym yn ei gasglu?
Bydd y wybodaeth a gasglwn amdanoch yn cael ei defnyddio at ddiben(ion):
- Cymorth i gael cyllid sydd ar gael ar gyfer mesurau effeithlonrwydd ynni i wella perfformiad ynni eich cartref trwy gyllid ECO4/GBIS Flex (er enghraifft, uwchraddio gwresogi ac inswleiddio)
- Atgyfeirio aelwydydd cymwys i gael cymorth o dan y cynllun a nodir uchod
- Asesiad o gymhwysedd deiliad/iaid yr aelwyd ar gyfer ECO4/GBIS Flex
Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw:
Mae prosesu yn angenrheidiol o dan UKGDPR Erthygl 6(1)(e) prosesu yn angenrheidiol i gyflawni tasg er budd y cyhoedd.
Lle mae data Categori Arbennig yn cael ei brosesu, y sail gyfreithiol yw Erthygl 9(2) g) rhesymau o fudd cyhoeddus sylweddol (deddfwriaeth fel isod). Yr amodau prosesu budd cyhoeddus sylweddol yw 6) dibenion statudol a llywodraeth.
Gorchymyn Trydan a Nwy (Rhwymedigaeth Cwmni Ynni) 2022
Deddf Cartrefi Cynnes ac Arbed Ynni 2000
Deddf yr Economi Ddigidol 2017 Adran 35
Beth os nad ydych yn darparu data personol?
Os nad ydych yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnom pan fyddwn yn gofyn amdani, gallai hyn olygu na fydd yr Awdurdod Lleol yn gallu asesu eich cais am gymorth o dan raglenni ECO4/GBIS Flex.
Pa fath o wybodaeth ydym yn ei defnyddio?
Casglwn y mathau canlynol o ddata personol amdanoch chi er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn (caiff y cyfan neu rywfaint o'r wybodaeth hon ei chasglu fel rhan o'ch cais yn dibynnu ar eich amgylchiadau a'ch llwybr cymhwysedd arfaethedig). Ar gyfer ECO4/GBIS Flex mae Ofgem (Swyddfa Marchnadoedd Nwy a Trydan) yn gofyn am 'Ddatganiad' o gymhwysedd ar gyfer ymgeiswyr i gynnwys enw a chyfeiriad y deiliad tŷ ynghyd â'r Categori cydymffurfio perthnasol ar gyfer ECO4/GBIS Flex. Mae angen gwybodaeth i bennu cymhwysedd yn seiliedig ar amrediad meini prawf y cynllun:
- Gwybodaeth cysylltu – enw, cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad ebost
- Categori cymhwysedd (er enghraifft, dyddiad geni/oedran, incwm, treth y cyngor, gwybodaeth iechyd i dynnu sylw at fod yn agored i fyw mewn cartref oer, prydau ysgol am ddim, aelwyd a ddiffinnir gan y Cyngor fel un agored i niwed mewn cynllun cyhoeddedig, ac ati)
- Cyfansoddiad yr aelwyd – nifer yr oedolion, plant a deiliaid 65 oed a hŷn sy'n byw yn y cartref
- Statws blaenoriaeth yr aelwyd (h.y. efallai y bydd angen gwaith wedi'i wneud fel blaenoriaeth ar ddeiliaid sydd â salwch angheuol)
- Manylion ariannol/tystiolaeth o incwm a chymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim, ad-daliad Treth y Cyngor, a budd-daliadau prawf modd
- Gwybodaeth iechyd ar gyfer salwch sy'n gysylltiedig ag oerfel sy'n berthnasol i gymhwysedd y cynllun(iau)
- Gwerthuso a monitro canlyniadau cyffredinol y cynllun, a all gynnwys data lefel cyfeiriad ar gyfer arbedion carbon, arbedion ariannol ac unrhyw lefelau buddsoddi. Mae hyn at ddibenion monitro ac archwilio'r Cyngor ac atal cyfrif dwywaith
Bydd tystiolaeth/dogfennau sy'n nodi/cadarnhau'r uchod at ddibenion cymhwysedd cynllun yn cael eu rhannu rhwng y Cyngor, darparwr/gosodwr ECO4 Flex ac Ofgem.
Ydym ni'n defnyddio'r wybodaeth a dderbynnir gan ffynonellau eraill?
Er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn, casglwn wybodaeth yn uniongyrchol oddi wrthych chi a'r darparwr/asiant/gosodwr ECO4 Flex cymeradwy rydych wedi'i ddefnyddio i wneud cais am y cynllun. Mae'r mathau canlynol o ddata personol yn cael eu casglu, yn dibynnu ar eich amgylchiadau:
- Gwybodaeth cysylltu – enw, cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad ebost
- Categori cymhwysedd (er enghraifft, dyddiad geni/oedran, incwm, treth y cyngor, gwybodaeth iechyd i dynnu sylw at fod yn agored i fyw mewn cartref oer, prydau ysgol am ddim, aelwyd a ddiffinnir gan y Cyngor fel un agored i niwed mewn cynllun cyhoeddedig, ac ati)
- Cyfansoddiad yr aelwyd – nifer yr oedolion, plant a deiliaid 65 oed a hŷn sy'n byw yn yr aelwyd
- Statws blaenoriaeth yr aelwyd (h.y. efallai y bydd angen gwaith wedi'i wneud fel blaenoriaeth ar ddeiliaid sydd â salwch angheuol)
- Manylion ariannol/tystiolaeth o incwm a chymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim, ad-daliad Treth y Cyngor, a budd-daliadau prawf modd
- Gwybodaeth iechyd ar gyfer salwch sy'n gysylltiedig ag oerfel sy'n berthnasol i gymhwysedd y cynllun(iau)
- Gwerthuso a monitro canlyniadau cyffredinol y cynllun, a all gynnwys data lefel cyfeiriad ar gyfer arbedion carbon, arbedion ariannol ac unrhyw lefelau buddsoddi. Mae hyn at ddibenion monitro ac archwilio'r Cyngor ac atal cyfrif dwywaith
Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor
Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo y tu allan i'r Deyrnas Unedig.
Gyda phwy y gellir rhannu eich gwybodaeth (yn fewnol ac yn allanol)?
Mae angen gwybodaeth i benderfynu ar gymhwysedd yn seiliedig ar amrediad meini prawf y cynllun. Dim ond gwybodaeth sy'n berthnasol ac sy'n ofynnol ar gyfer pob cynllun/ffynhonnell ariannu bwrpasol a rennir. Mae'n bosibl y bydd Cyngor Sir Ceredigion yn rhannu eich manylion cysylltu a phersonol â'r cyflenwyr ynni sy'n ariannu, y gosodwyr, ac Ofgem (gweinyddwr y cynlluniau). I gael manylion am sut y bydd unrhyw unigolyn neu sefydliad yn casglu ac yn prosesu eich data dylech gysylltu â nhw'n uniongyrchol. Gallwn rannu eich gwybodaeth â'r canlynol:
Yn allanol
- Ofgem (Swyddfa'r Marchnadoedd Nwy a Thrydan): Ar gyfer ECO4/GBIS Flex mae Ofgem yn gofyn am 'Ddatganiad' o gymhwysedd ar gyfer ymgeiswyr i gynnwys enw a chyfeiriad y deiliad tŷ ynghyd â'r categori cydymffurfio perthnasol ar gyfer Cynllun ECO4 Flex. Bydd Ofgem hefyd yn archwilio'r Cyngor o bryd i'w gilydd ac fel rhan o'i broses archwilio bydd angen tystiolaeth o gymhwysedd yr aelwyd ar gyfer ECO4 Flex. Ar y sail hon, mae'n bosibl y bydd y wybodaeth a'r dystiolaeth a ddarperir gennych yn eich ffurflen gais yn cadarnhau eich cymhwysedd yn cael ei rannu ag Ofgem. Mae manylion sut y bydd Ofgem yn casglu ac yn prosesu eich data mewn cysylltiad ag ECO4 a GBIS wedi'u cynnwys yn Hysbysiad Preifatrwydd ECO4 a Hysbysiad Preifatrwydd GBIS ar wefan OFGEM
- Darparwyr/asiantau/gosodwyr ECO4/GBIS Flex a gymeradwywyd gan y Cyngor: Dyma'r cwmnïau y mae'n rhaid i aelwydydd wneud cais iddynt er mwyn asesu eu cymhwysedd ar gyfer ECO4/GBIS Flex.
Ceir sefyllfaoedd penodol eraill hefyd lle gallai fod yn ofynnol i ni ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi, megis:
- Lle mae'n ofynnol i'r Cyngor ddarparu'r wybodaeth yn ôl y gyfraith
- Lle mae angen datgelu'r wybodaeth i atal neu ganfod trosedd
- Lle mae datgelu er budd hanfodol yr unigolyn dan sylw
Yn fewnol
Dim ond aelodau awdurdodedig o staff y mae'n ofynnol iddynt ei phrosesu at y dibenion a amlinellir yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn gaiff mynediad i'ch gwybodaeth.
Gwybodaeth Bellach
Manylion mesurau diogelu – beth rydym yn ei wneud â'r data a pha mor hir y byddwn yn ei gadw.
Caiff eich data ei gadw o fewn rhwydwaith diogel Cyngor Sir Ceredigion ac ni chaiff ei brosesu y tu allan i'r DU. Cedwir eich data gan Gyngor Sir Ceredigion am gyfnod ECO4/GBIS, ac am gyfnod o hyd at 5 mlynedd ar ôl i ECO4/GBIS ddod i ben. Dim ond aelodau awdurdodedig o staff y mae'n ofynnol iddynt ei phrosesu at y dibenion a amlinellir yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn gaiff mynediad i'ch gwybodaeth.
Beth yw fy hawliau data?
Mae eich gwybodaeth bersonol yn eiddo i chi ac, yn unol â hysbysiad preifatrwydd cyffredinol y Cyngor, mae gennych yr hawl i:
- Gael gwybod sut y byddwn yn ei phrosesu
- Mynediad i'r wybodaeth – gofyn am gopi o'r hyn sydd gennym amdanoch ac mewn fformat electronig a ddefnyddir yn gyffredin os dymunwch (os ydych wedi rhoi hwn i ni yn electronig ar gyfer prosesu awtomataidd, byddwn yn ei ddychwelyd yn yr un modd)
- Cael ei diwygio os yw'n anghywir neu'n anghyflawn
- Cael ei dileu (lle nad oes gennym ofyniad cyfreithiol i'w chadw)
- Cyfyngu ar sut rydym yn ei phrosesu
- Tynnu eich caniatâd yn ôl
- Gwneud cwyn: e.e. yn fewnol gyda'r Awdurdod Lleol ac yn allanol gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), y corff annibynnol sy'n goruchwylio diogelu data a'r GDPR (gweler isod)
Cwynion ac Ymholiadau
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn ceisio bodloni'r safonau uchaf wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Am y rheswm hwn, rydym yn cymryd unrhyw gwynion a gawn am hyn o ddifrif. Rydym yn annog pobl i gysylltu â ni os ydynt yn credu bod y modd rydym wedi casglu neu ddefnyddio gwybodaeth yn annheg, yn gamarweiniol neu'n amhriodol.
Nid yw'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi manylion hollgynhwysfawr am bob agwedd ar ein dulliau casglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydym yn hapus i ddarparu unrhyw wybodaeth ychwanegol neu esboniad sydd ei angen. Dylid anfon unrhyw geisiadau am hyn i Swyddog Diogelu Data, Cyngor Sir Ceredigion, Canolfan Rheidol, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UE neu ebostiwch data.protection@ceredigion.gov.uk.
Os hoffech wneud cwyn am y ffordd rydym wedi prosesu eich gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) fel y corff statudol sy'n goruchwylio cyfraith diogelu data: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, SK9 5AF, Rhif Ffôn 0303 123 1113 neu ewch i wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.