
Eiddo sy'n Dadfeilio
Gall tai gwag ddadfeilio’n gyflym oherwydd nad oes neb yno i gyflawni mân dasgau cynnal a chadw nac i sylwi ar unrhyw broblemau posibl cyn iddyn nhw ddwysáu.
Gall gwaith adeiladu fod yn ddrud a gall achosi straen. Felly, mae’n bwysig eich bod yn dewis yr adeiladwr iawn. Yn ogystal ag osgoi’r ‘cowbois’ diegwyddor, cofiwch nad yw rhai crefftwyr gonest a didwyll iawn o reidrwydd yn gymwys i wneud y gwaith.
Bydd unrhyw grefftwr gonest yn barod i ddarparu tystiolaeth bod modd iddo gyflawni’r gwaith at y safon ofynnol. Mae rhai gwefannau ar gael i’ch helpu i gael hyd i grefftwyr lleol.
Ardystio
Bydd angen i grefftwr cofrestredig ardystio mathau penodol o waith. Os oes angen gwneud unrhyw waith ar gyflenwad neu gyfarpar nwy, dylech chwilio am gontractiwr sydd wedi cofrestru gyda Gas Safe. Mae peirianwyr tanwydd solet yn cofrestru gyda HETAS. Mae peirianwyr olew’n cofrestru gydag OFTEC. Dylai trydanwr sydd wedi cofrestru’n briodol gyflawni gwaith ar osodiadau trydanol yr eiddo. Mae nifer o gynlluniau hunanardystio trydanol ar gael. NICEIC ac ECA yw’r prif rai. Cysylltwch â’r Adran Rheoli Adeiladu i gael mwy o fanylion.
Mae angen gwneud cais am Reoliadau Cynllunio ar gyfer mathau eraill o waith (ond nid mân atgyweiriadau na gwaith addurno yn gyffredinol). Dylai adeiladwr da allu eich helpu i wneud hyn.
Penseiri
Os ydych chi’n pryderu ynghylch trefnu’r gwaith, mae’n syniad da cysylltu â phensaer lleol. Bydd modd i’r pensaer awgrymu adeiladwr addas a threfnu contractau gwaith, yn ogystal ag ymweld â’r safle tra mae’r gwaith yn mynd rhagddo i ddatrys unrhyw broblemau. Bydd y pensaer yn codi ffi a bydd angen i chi dalu’r ffi honno ar ben cost y gwaith adeiladu.
Caniatâd Cynllunio
Fel arfer, ni fydd angen caniatâd cynllunio arnoch i atgyweirio’ch cartref. Ond gall fod angen caniatâd arnoch os yw’n adeilad rhestredig neu os yw’r eiddo wedi’i leoli mewn ardal gadwraeth a’ch bod yn cyflawni gwaith tu allan i’r adeilad.
Mae’n debygol y bydd angen caniatâd cynllunio arnoch os ydych yn bwriadu newid defnydd adeilad, e.e. os ydych yn addasu adeilad masnachol yn annedd, neu os ydych yn troi tŷ yn dŷ amlfeddiannaeth neu’n fflatiau. I gael mwy o wybodaeth am ganiatâd cynllunio, ewch i'r tudalennau Tai Amlfeddiannaeth.
Benthyciad Troi Tai’n Gartrefi
Mae’n bosib y byddwch yn medru manteisio ar Fenthyciad Eiddo Gwag o dan y Cynllun Troi Tai’n Gartrefi. Benthyciad di-log yw hwn o hyd at £25,000 yr uned. Mae’r benthyciad ar gael ar gyfer eiddo sy’n cael ei adfer. Bydd angen i’r eiddo gwag gael ei osod ar rent yn llawn amser neu ei werthu ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau. Am fwy o wybodaeth ewch i’n tudalen Troi Tai’n Gartrefi - Benthyciad Eiddo Gwag.