Mae rhannau o Lwybr Arfordir Ceredigion wedi'u cau dros dro er budd iechyd y cyhoedd.
Y rhannau sydd wedi cau dros dro yw;
- Aberystwyth – Clarach
- Aberaeron – Aberarth
- Aberarth – Llanon
- Aberporth – Tresaith
- Aberteifi
- Borth – Tre Taliesin
- Clarach – Borth
- Cwmtydu – Ceinewydd
- Gwbert – Mwnt
- Llangrannog – Urdd
- Llanina – Aberaeron
- Llanon – Llanrhystud
- Llanrhystud – Tan y Bwlch
- Mwnt – Aber-porth
- Ceinewydd - Llanina
- Penbryn – Llangrannog
- Tresaith – Penbryn
- Urdd - Cwmtydu
I weld map o'r lleoliadau hyn, ewch i wefan y Cyngor yma: http://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/yr-arfordir-a-chefn-gwlad/
Bydd y llwybrau cyhoeddus yn cael eu cadw ar gau nes yr ystyrir nad oes angen cau mwyach er mwyn atal, amddiffyn rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd cyhoeddus i fynychder neu ledaeniad yr haint gyda'r coronafeirws.
Ar hyn o bryd mae gweddill rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus Ceredigion yn parhau i fod ar agor i'r cyhoedd ei ddefnyddio. Fodd bynnag, rydym yn annog pawb sy'n mynd i gefn gwlad yn ystod y cyfnod hwn i wneud hynny'n gyfrifol, yn barchus ac i ddilyn cyngor y Llywodraeth ar gadw pellter cymdeithasol wrth wneud un math o ymarfer corff bob dydd.
Rydym yn gofyn i'r cyhoedd gadw draw o leoliadau a llwybrau a allai fod yn brysur sy'n pasio yn agos at dai, gerddi ac iardiau ffermydd. Rhaid i breswylwyr ddefnyddio eu cymdogaeth ar yr adeg hon a pheidio â theithio i leoliadau eraill at y diben hwn.
Mae diweddariadau rheolaidd ar y sefyllfa yng Ngheredigion ar wefan Cyngor: www.ceredigion.gov.uk/coronafeirws. Gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf trwy Facebook, Twitter ac Instagram.
01/04/2020