Mae’r Cynllun Grant Cymunedol Ceredigion ar agor am geisiadau gyda’r bwriad o gynnyddu'r ystod o gyfleodd, cyfleusterau a gweithgareddau yn y sir.

Mae grantiau ar gael i Grwpiau Cymunedol, Cynghorau Cymuned neu Gymdeithasau Hamdden a Chwaraeon gwirfoddol sydd am wella a chynyddu'r ystod o gyfleusterau, gweithgareddau a chyfleon yng Ngheredigion. Bydd cymdeithasau gwirfoddol nad ydynt yn gwneud elw, sydd â chyfansoddiad priodol yn gymwys i wneud cais am gymorth hefyd.

Ystyrir ceisiadau gan Gyngor Sir Ceredigion am brosiectau sydd heb eu dechrau neu ddigwyddiadau sydd heb eu cynnal eto. Mae hyn yn cynnwys prosiectau refeniw megis costau cynnal cymdeithas, neu gyfalaf megis gwella cyfleusterau presennol adeilad. Mae grantiau polisi ar gael megis arian tuag at Eisteddfodau lleol.

Dywedodd Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet ar gyfer yr Economi ac Adfywio: “Braf yw gweld Grwpiau Cymunedol, Cynghorau Cymuned a Chymdeithasau Hamdden a Chwaraeon yn ymgeisio am grantiau. Mae gwella a chynyddu gweithgareddau yn rhoi hwb i’n cymunedau ac economi Ceredigion. Edrychwn ymlaen i weld y gwelliannau yn digwydd a’r gweithgareddau yn cael eu cynnal.”

Dyma’r prosiectau sydd wedi’u cwblhau yn ddiweddar:

  • Uwchraddio'r system wresogi yn Eglwys St.Tydfil Church, Llechryd
  • Creu man parcio diogel oddi ar y ffordd ar gyfer neuadd gymunedol Ysgoldy Goch, Cwmystwyth
  • Ffenestri a drysau newydd yn Neuadd Bentref a maes chwarae Llanddewi Brefi.

Dywedodd Cynghorydd Gareth Davies, Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Cyllid a Chaffael: “Yn y dyddiau sydd ohoni, mae’n hollbwysig i’r grwpiau a’r digwyddiadau yma i gael cefnogaeth ariannol. Mae hyn yn sicrhau dyfodol llewyrchus i’n cymunedau yma yng Ngheredigion. Os ydych chi’n ffitio’r meini prawf, ewch amdani ac ymgeisio am grant.”

Cafodd y prosiectau yma eu hariannu ar ddechrau mis Hydref 2022:

  • Tynnu'r simnai ac uwchraddio rhannau o'r to i atal dŵr rhag mynd i mewn yn Eglwys Mydroilyn
  • Uwchraddio ffenestri Eglwys Nanternis
  • Cymorth tuag at costau prynu canolfan bresennol HAHAV sef Plas Antaron
  • Uwchraddio a gwaith ar ffenestri Capel Bethania, Aberteifi.

Mae’r pecyn cais a gwybodaeth pellach ar dudalen Gynllun Grant Cymunedol Ceredigion.

Ffenestri a drysau newydd yn Neuadd Bentref a maes chwarae Llanddewi Brefi

Llun uwch: Man parcio diogel oddi ar y ffordd ar gyfer neuadd gymunedol Ysgoldy Goch, Cwmystwyth

14/11/2022