Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Ysgol y Dderi yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol Chwarae

I nodi Diwrnod Rhyngwladol Chwarae ar 11 Mehefin, cafodd plant Ysgol y Dderi, Llangybi brynhawn arbennig o chwarae fel rhan o ddigwyddiad Cymryd Drosodd y Maes Chwarae a drefnwyd gan Glybiau Plant Cymru Kids’ Clubs.

Mae Diwrnod Rhyngwladol Chwarae yn cael ei gydnabod ledled y byd fel cyfle i ddiogelu, hyrwyddo a blaenoriaethu chwarae, gan gydnabod ei rôl hollbwysig yn natblygiad, llesiant, creadigrwydd, gwydnwch a chysylltiadau cymdeithasol plant.

Dewiswyd Ysgol y Dderi yn enillydd rhanbarth canolbarth Cymru fel rhan o fenter flynyddol Cymryd Drosodd y Maes Chwarae gan Glybiau Plant Cymru Kids’ Clubs, sydd bellach yn ei drydedd blwyddyn. Nod y rhaglen yw tynnu sylw at bwysigrwydd chwarae a hyrwyddo hawl pob plentyn i chwarae.

Drwy gydol y prynhawn, bu’r plant yn adeiladu dinasoedd cardbord, yn creu campweithiau clai, yn adeiladu cuddfannau, yn arbrofi gyda morthwylion a hoelion, yn addurno’r maes chwarae gyda gwaith celf lliwgar mewn sialc ac yn ymgolli mewn gweithgareddau gwisgo i fyny llawn dychymyg.

Bu’r digwyddiad mor boblogaidd nes i nifer y plant a fynychodd y clwb ôl-ysgol ddyblu ar gyfer y sesiwn arbennig, yn dilyn hyrwyddo’r digwyddiad Cymryd Drosodd y Maes Chwarae ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Chwarae.

Gan ddefnyddio rhannau rhydd, deunyddiau creadigol, gemau ac adnoddau chwarae, trawsnewidiodd y plant fannau’r ysgol yn leoedd llawn dychymyg, arbrofi a chydweithio. Er gwaethaf y tywydd gwlyb ar adegau, parhaodd y gweithgareddau dan do ac yn yr awyr agored, gan ddangos y gall chwarae ystyrlon ddigwydd unrhyw le pan roddir amser, lle a rhyddid i blant chwarae.

Dywedodd Carys Davies, Rheolwr Gofal Plant Strategol Cyngor Sir Ceredigion: “Mae hawl plentyn i chwarae wedi’i diogelu o dan Erthygl 31 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Mae’r Uned Gofal Plant yn falch o gefnogi lleoliadau gofal plant a chwarae cofrestredig ledled Ceredigion sy’n cydnabod pwysigrwydd chwarae ac yn ei osod wrth galon eu darpariaeth. Gwnaeth y clwb ôl-ysgol yn Ysgol y Dderi yn arbennig o dda i ennill y digwyddiad hwn, a fu o fudd i bawb a oedd yn bresennol.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion: “Llongyfarchiadau i Ysgol y Dderi am ennill y digwyddiad gwych hwn. Mae clybiau ôl-ysgol yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i blant chwarae, cymdeithasu a datblygu sgiliau bywyd pwysig. Maent hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi rhieni a gofalwyr sy’n gweithio, gan eu gwneud yn wasanaeth hanfodol i lawer o deuluoedd ledled Ceredigion.”

Am ragor o wybodaeth am ddarparu gwasanaeth gofal plant a/neu chwarae yng Ngheredigion, ewch i wefan Cyngor Sir Ceredigion: Darparu Gwasanaeth Gofal Plant a/neu Chwarae

09/07/2026