Yr alwad olaf am enwebiadau ar gyfer Gwobrau Caru Ceredigion
Wythnos yn unig sydd gan fusnesau, prosiectau cymunedol ac entrepreneuriaid yng Ngheredigion i gyflwyno eu ceisiadau ar gyfer Gwobrau Caru Ceredigion 2026 y mae disgwyl mawr amdanynt.
Mae’r ceisiadau’n cau ddydd Gwener 16 Hydref, gyda’r gwobrau’n cydnabod cyfraniadau a llwyddiannau eithriadol busnesau, prosiectau cymunedol, ac unigolion ar draws y sir.
Mae’r gwobrau’n cynnwys 12 categori, yn amrywio o arloesi yn y gymuned, i gydnabod entrepreneuriaid ifanc, y diwydiant twristiaeth, digwyddiadau llwyddiannus, a chategori newydd sbon Arloesedd a Thechnoleg.
Wrth siarad am yr alwad olaf am enwebiadau, dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Ceredigion sy’n gyfrifol am yr Economi ac Adfywio:
"Rydyn ni wrth ein bodd gyda'r ymateb anhygoel a'r safon uchel o geisiadau rydyn ni wedi'u derbyn hyd yn hyn. Mae'r sir yn gartref i fusnesau rhagorol, entrepreneuriaid ifanc, a phrosiectau cymunedol bywiog, ac mae'r gwobrau hyn yn rhoi llwyfan gwych i ddathlu'r gwaith rhyfeddol sy’n cael ei wneud.
“Byddwn yn sicr yn annog grwpiau i ystyried ymgeisio, neu enwebu rhywun maen nhw’n credu sy’n haeddiannol, gan fod hwn yn gyfle gwych i gydnabod a dathlu rhagoriaeth yng Ngheredigion.”
Mae’r gwobrau’n cael eu trefnu gan Cynnal y Cardi o dan faner Caru Ceredigion. Mae Caru Ceredigion yn ymgyrch gymunedol gyda’r nod o feithrin ymdeimlad o falchder yn y sir, tra’n annog pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n gwella’r amgylchedd, yn cefnogi busnesau lleol, ac yn cryfhau’r gymuned. Mae Cynnal y Cardi, gwasanaeth Economi ac Afywio Cyngor Sir Ceredigion yn gweithio i helpu i hybu’r economi a mynd i’r afael â rhai o’r heriau mae pobl a mentrau’n eu hwynebu, gyda ffocws ar ddatblygu cyfleoedd i helpu’r economi i dyfu a ffynnu.
Noddir y gwobrau yn rhannol eleni gan Llywodraeth Cymru. Dywedodd Adam Price AS, Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni:
"Mae Gwobrau Caru Ceredigion yn gyfle pwysig i ddathlu'r busnesau, sefydliadau ac unigolion sy'n gwneud cyfraniad hollbwysig i economi a chymunedau Ceredigion.
"Wrth i ni ddatblygu cyfeiriad newydd ar gyfer economi Cymru, bydd arloesi yn rhan allweddol o'n dull gweithredu - rydym am gefnogi busnesau i ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd, croesawu technolegau newydd, buddsoddi mewn ymchwil a datblygu, a gwella cynhyrchiant a chystadleudrwydd.
"Mae’n wych gweld bod gwobr newydd yn cael ei chyflwyno eleni, sef y Wobr Arloesedd a Thechnoleg, sy’n cydnabod busnesau ledled Ceredigion sy'n arloesi i ddatrys heriau, gwella profiadau cwsmeriaid, sbarduno twf cynaliadwy a chreu cyfleoedd newydd."
Mae'r rhestr lawn o gategorïau a meini prawf cymwys i'w gweld ar wefan Cyngor Sir Ceredigion. Bydd y beirniadu’n digwydd ym mis Tachwedd gan banel o feirniaid arbenigol, gyda rhestr fer yn cael ei chyhoeddi cyn i’r enillwyr gael eu datgelu mewn seremoni ar 10 Rhagfyr 2026.
Am fwy o wybodaeth a ffurflenni cais ewch i : Gwobrau Caru Ceredigion 2026 - Cyngor Sir Ceredigion neu, cysylltwch ag aelod o’r tîm drwy anfon e-bost at: ce.cynnalycardi@ceredigion.gov.uk
09/10/2026