Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Storm Goretti: rhybudd am ragor o eira i Geredigion

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd Ambr a rhybudd Melyn am eira a fydd yn effeithio ar rannau o Geredigion dros y dyddiau nesaf.

#
#
  • Mae’r rhybudd Ambr yn weithredol o 20:00 nos Iau (08 Ionawr) tan 9:00 ddydd Gwener (09 Ionawr).
  • Mae’r rhybudd Melyn mewn grym o 17:00 nos Iau (08 Ionawr) tan 12:00 ddydd Gwener (09 Ionawr).

Gall yr eira, a ddaw yn sgil Storm Goretti, arwain at amodau teithio peryglus ac amhariadau i wasanaethau.

Os oes rhaid i chi deithio, cadwch lygad ar ragolygon tywydd ar gwefan y Swyddfa Dywydd, a byddwch yn ofalus iawn ar eich teithiau.

Gellir dod o hyd i gyngor ar yrru yn ystod y gaeaf ar ein tudalen Gyrru yn y gaeaf.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu rhannu ar ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol.

Am ragor o wybodaeth am ein priffyrdd dros y gaeaf, sy’n cynnwys cyfres o gwestiynau cyffredin, ewch i'r tudalen Priffyrdd dros y gaeaf.

07/01/2026