Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Lansio ymgynghoriad ar gyfer holl aelodau’r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Mae asesiad llety Sipsiwn, Roma a Theithwyr wedi cael ei lansio.

Os ydych yn aelod o'r gymuned Sipsiwn, Roma neu Deithwyr, rydym yn eich annog i lenwi ein holiadur. Bydd eich adborth yn ein helpu i ddeall anghenion llety'r presennol a'r dyfodol yn well a sicrhau bod gwasanaethau a darpariaeth yn briodol ac yn deg.

Mae pobl Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn rhan bwysig o hanes a diwylliant Cymru, ar ôl byw, gweithio a theithio yma am gannoedd o flynyddoedd.

Heddiw, cydnabyddir pobl Sipsiwn, Roma a Theithwyr fel grwpiau ethnig ac fe'u gwarchodir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Tra bod rhai aelodau o'r cymunedau hyn yn byw mewn tai neu ar safleoedd parhaol, mae eraill yn parhau i deithio fel rhan o'u ffordd o fyw.

O dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, rhaid i awdurdodau lleol asesu a chynllunio ar gyfer anghenion llety pobl Sipsiwn, Roma a Theithwyr sy'n byw yn eu hardal neu'n troi iddi.

Er mwyn helpu i gyflawni'r ddyletswydd hon, rydym yn gofyn i aelodau'r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr rannu eu barn a'u profiadau.

Dywedodd Cynghorydd Matthew Vaux Aelod Cabinet ar gyfer Partneriaethau, Gwasanaethau Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd: “Mae'n hanfodol ein bod yn clywed yn uniongyrchol gan aelodau o'r cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr fel y gallwn ddeall eu hanghenion llety yn well. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn helpu i sicrhau bod ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn deg, yn gynhwysol ac yn adlewyrchu profiadau'r rhai sy'n byw o fewn y cymunedau hyn. Byddwn yn annog unrhyw un o fewn y cymunedau hyn i gymryd rhan a rhannu eu barn.”

Bydd yr holl ymatebion yn cael eu trin yn gyfrinachol a byddant yn chwarae rhan bwysig yn siapio cynlluniau'r dyfodol.

Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan 31 Gorffennaf 2026.

Gellir gweld rhagor o fanylion am y cynigion a'r ymgynghori ar wefan y Cyngor: Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr

22/05/2026