Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Helpwch i lunio dyfodol Rhwydwaith Teithio Llesol Ceredigion

Mae trigolion ledled Ceredigion yn cael eu gwahodd i rannu eu barn ar sut y gellir gwneud llwybrau cerdded, olwynio a beicio yn fwy diogel, yn haws ac yn fwy hygyrch i bawb fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus newydd ar Fap Rhwydwaith Teithio Llesol y Sir yn y dyfodol.

O dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, mae’n ofynnol i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru gyflwyno Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol wedi’u diweddaru i Lywodraeth Cymru erbyn mis Rhagfyr 2026. Mae’r mapiau hyn yn cefnogi’r gwaith o gynllunio, cyflawni ac ariannu cynlluniau teithio llesol, gan helpu i greu rhwydweithiau teithio mwy integredig, hygyrch a chynaliadwy ar gyfer teithiau bob dydd.

Mae’r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar y lleoliadau Teithio Llesol dynodedig yn y Sir, sef Aberystwyth, Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan, a ddewiswyd gan Lywodraeth Cymru. Anogir trigolion, busnesau a grwpiau cymunedol i rannu eu barn ar y llwybrau presennol a chynnig syniadau ar gyfer llwybrau newydd neu welliannau i’r rhwydwaith.

Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg o 3 Gorffennaf 2026 tan 25 Medi 2026. Gall aelodau’r cyhoedd gymryd rhan drwy dudalen Ymgysylltu ac Ymgynghoriadau Cyngor Sir Ceredigion, sy’n cynnwys mynediad at fap rhyngweithiol lle gellir cyflwyno sylwadau ynghylch pa lwybrau y dylid eu cyflwyno neu eu gwella. 

Dywedodd y Cynghorydd Shelley Childs, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol: “Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhoi cyfle i’r rhai sy’n byw, gweithio neu ymweld â’r ardaloedd dynodedig yn Aberystwyth, Llanbedr Pont Steffan ac Aberteifi i gyflwyno eu hargymhellion personol ar gyfer gwelliannau ac estyniadau pellach i’r rhwydwaith. Mae teithiau teithio llesol yn cynnig ystod eang o fanteision, o helpu i ddatgarboneiddio trafnidiaeth a theithio a gwella ansawdd aer lleol, i gefnogi iechyd a lles pobl.”

Gall trigolion gael rhagor o wybodaeth a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad drwy ymweld â thudalen Ymgysylltu ac Ymgynghoriadau’r Cyngor.

Mae rhagor o wybodaeth am Deithio Llesol yng Ngheredigion hefyd ar gael ar wefan y Cyngor: Teithio Llesol.

06/07/2026