Gwasanaeth Llyfrgelloedd Ceredigion yn lansio her 21 llyfr newydd i oedolion
Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Ceredigion wedi lansio menter ddarllen gyffrous newydd, sef yr Her 21 Llyfr, sydd wedi’i chynllunio i annog oedolion i ddarganfod llyfrau newydd a mwynhau’r pleser o ddarllen.
Mae’r her ar gael ym mhob un o’r chwe llyfrgell ar draws y sir, yn ogystal â thrwy’r gwasanaeth llyfrgell symudol. Mae cymryd rhan yn syml: gall darllenwyr gasglu cerdyn her o’u llyfrgell leol, dewis llyfrau o amrywiaeth o gategorïau, a dechrau darllen.
Mae’r categorïau’n amrywiol ac yn hwyl, yn amrywio o “Llyfr â Chlawr Coch” i “Hunangofiant Enwogyn”, ynghyd â llawer o gategorïau eraill sydd wedi’u cynllunio i ysbrydoli darllenwyr i roi cynnig ar rywbeth gwahanol.
Nod yr her yw darllen 21 o lyfrau mewn blwyddyn, mewn unrhyw drefn y mae’r cyfranogwyr yn ei dymuno. I ddathlu eu llwyddiannau, bydd darllenwyr yn derbyn gwobr ar ôl cwblhau 7, 14 a 21 llyfr.
Prif nodau’r her yw annog oedolion i ddarllen yn ehangach, archwilio gwahanol genres ac awduron, a darganfod y llawenydd a’r buddion sydd ynghlwm wrth ddarllen er pleser.
Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Diwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid: “Mae ein llyfrgelloedd wrth galon ein cymunedau, yn ysbrydoli pobl i ddarllen, i fwynhau ac i rannu’r mwynhad. Mae’r Her 21 Llyfr yn ffordd wych o'n hysbrydoli i ail-gydio yn y pleser o ddarllen a rhoi cynnig ar rhywbeth newydd. Gobeithio y bydd cynifer â phosib yn derbyn yr her ac yn mwynhau! ”
Mae gwobrau ar gael tra bo’r stoc yn para.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’ch llyfrgell leol yng Ngheredigion neu defnyddiwch y gwasanaeth llyfrgell symudol. Mae rhagor o wybodaeth yma: Llyfrgell Ceredigion
25/06/2026