Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Gwarchodwyr Plant Ceredigion yn Dathlu Wythnos Gwarchod Plant 2026

Cynhaliwyd Wythnos Gwarchod Plant 2026 rhwng 11 ac 17 Mai, ar y thema ‘Lledrith Gwarchod’. 

Mae’n ddathliad blynyddol o’r rôl hanfodol a chwaraeir gan Warchodwyr Plant yn siapio bywydau plant, a’r effaith a gaiff eu gwaith ar blant, teuluoedd, cymunedau lleol, a’r sector gofal plant ehangach.

Cynhaliodd Uned Gofal Plant Cyngor Sir Ceredigion ddigwyddiad ar 12 Mai 2026, pan ddaeth Gwarchodwyr Plant, a’r plant maent yn gofalu amdanynt, at ei gilydd am bicnic a sesiwn chwarae.  Cynhaliwyd y digwyddiad yn Ymddiriedolaeth Genedlaethol Llanerchaeron, lle bu’r mynychwyr yn crwydro o fewn waliau’r ardd, yn ymweld â’r anifeiliaid fferm, ac yn chwarae’n rhydd  ar dir y plas gydag amryw o adnoddau gwahanol, cyn mwynhau eu picnic a chwpanaid o de.

Roedd staff o’r Uned Gofal Plant yn bresennol i ddangos eu gwerthfawrogiad o’r sector, ateb cwestiynau, a chynnig cyngor a chymorth ar bob agwedd ar Warchod Plant.  Roedd cynrychiolydd o Coram Pacey Cymru wrth law i hyrwyddo Addewid Cymraeg Cwlwm a sut y gall Gwarchodwyr Plant symud ymlaen i weithio tuag at Gynnig Gweithredol.  Daethpwyd â’r dathliad i ben gyda the, ffrwythau a bisgedi i bawb.

Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau:  “Roedd hi’n bleser siarad â rhai o’r Gwarchodwyr yn ystod dathliad Ceredigion. Maent yn rhan werthfawr o’r sector gofal plant a chwarae, yn cynnig gofal plant hyblyg sy’n caniatáu i rieni a gofalwyr weithio a mynychu hyfforddiant.”

Meddai Carys Davies, Rheolwr Strategol Gofal Plant Ceredigion:  “Mae Ceredigion yn parhau i elwa o gymuned ffyniannus o Warchodwyr Plant, sydd wedi ymrwymo i’w proffesiwn a’r plant maent yn gofalu amdanynt.  Mae’r Uned Gofal Plant yn falch o’u cynghori a’u cynorthwyo, gan sicrhau bod amrywiaeth o opsiynau gofal plant ar gael i deuluoedd yng Ngheredigion.”

I ddysgu mwy am Warchod Plant, e-bostiwch clic@ceredigion.gov.uk neu ewch i Darparu Gwasanaeth Gofal Plant a/neu Chwarae – Cyngor Sir Ceredigion

I ddysgu mwy am y ‘Cynnig Gweithredol’ ar gyfer darparwyr gofal ewch i:

I ddod o hyd i warchodwr plant yn eich ardal chi, ewch i wefan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Cymru

30/06/2026