Gwaith adeiladu ar y gweill ar gyfer llwybr Teithio Llesol rhwng Waunfawr ac IBERS
Mae gwaith adeiladu pellach wedi'i gynllunio ar gyfer 2026 i ddarparu'r llwybr beicio a cherdded newydd rhwng Waunfawr ac IBERS.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â swyddogion o Lywodraeth Cymru ac Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA) sy'n arwain ar gyflawni 'Cam 2' o’r gwaith ger yr A487. Mae'r gwaith adeiladu wedi'i raglennu i ddechrau ym mis Chwefror ar Gefnffordd yr A487 / C1007 (Cyffordd Dorglwyd) ger Comins Coch a'r nod yw ei gwblhau erbyn haf 2026.
Bydd y gwaith hwn yn cwblhau ‘Cam 2’ o’r llwybr cyd-ddefnydd newydd hwn ar hyd yr A487 rhwng Comins Coch a’r gyffordd â’r C1010 (tuag at Benrhyn-coch). Bydd ffordd y C1007 i mewn i Gomins Coch ar gau er mwyn gwneud y gwaith adeiladu hwn, ac unwaith y bydd wedi’i orffen bydd yn helpu i wella diogelwch ffyrdd yng Nghyffordd Dorglwyd lle bydd y cynllun hefyd yn cael ei wella fel rhan o’r cynllun.
Mae Cyngor Sir Ceredigion hefyd yn nodi y bydd y gwaith ar adeiladu'r llwybr cyd-ddefnydd newydd rhwng croesffordd IBERS a Splash Cottages ar yr C1010, o fewn gwaith 'Cam 3', wedi'i gwblhau'n fuan. Mae gwaith pellach wedi'i raglennu yn ddiweddarach yn 2026 i gwblhau'r llwybr cyd-ddefnydd cyswllt ar hyd yr C1010 sydd hefyd yn rhan o 'Gam 3', yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru o Gynllun Cyflenwi Trafnidiaeth Rhanbarthol Cyd-bwyllgor Corfforaethol Canolbarth Cymru (CJC).
Dywedodd y Cynghorydd Shelley Childs, Aelod Cabinet dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol: “Mae’n wych clywed y newyddion bod y llwybr teithio llesol pellter hir hwn yn mynd rhagddo gyda gwaith pellach hefyd i’w wneud yn fuan. Mae maint y cynllun hwn wedi golygu bod angen cynllunio a chydlynu sylweddol rhwng yr holl randdeiliaid oherwydd heriau peirianyddol amrywiol a wynebwyd ar hyd y llwybr hwn. Rydym wedi bod yn gweithio'n galed i dderbyn cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru ar Gynllun Cyflenwi Trafnidiaeth Rhanbarthol Cyd-bwyllgor Corfforaethol Canolbarth Cymru fel y gellir sicrhau cyllid i gwblhau'r cynllun hwn erbyn diwedd 2026. Rwy'n gwybod bod llawer o drigolion Penrhyn-coch, Bow Street a thu hwnt yn gyffrous i weld y cyswllt cerdded a beicio hwn i dref Aberystwyth yn cael ei gwblhau – bydd yn darparu ffordd fwy diogel a chynaliadwy sy'n haws ei deithio wrth gysylltu'r cymunedau hyn. Rwyf hefyd yn falch iawn o weld gwelliannau i gyffordd Dorglwyd, a fydd yn sicrhau llwybr mwy diogel i ddefnyddwyr Teithio Llesol a modurwyr fel ei gilydd.”
I gael rhagor o wybodaeth am gynlluniau Teithio Llesol yng Ngheredigion, ewch i’n gwefan: Teithio Llesol
13/01/2026