Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Dysgu rhywbeth newydd yn ystod Wythnos Addysg Oedolion Ceredigion

Mae Dysgu Bro Ceredigion yn gwahodd trigolion i roi cynnig ar rywbeth newydd yn ystod Wythnos Addysg Oedolion, a gynhelir rhwng dydd Llun 7 a dydd Gwener 11 Medi 2026.

Cynhelir rhaglen o weithgareddau am ddim mewn lleoliadau ledled y sir, gan gynnwys Aberteifi, Aberaeron, Llanbedr Pont Steffan, Llandysul ac Aberystwyth, yn ogystal â un sesiwn ar-lein.

Bydd yr wythnos yn cynnig cyfleoedd i feithrin sgiliau digidol a chreadigol, dysgu rhagor am hanes teulu, archwilio opsiynau gyrfa a rhoi cynnig ar weithgareddau sy’n cefnogi lles. Mae’r digwyddiadau wedi’u cynllunio i fod yn groesawgar ac yn hygyrch, boed rhywun yn dychwelyd i ddysgu, yn awyddus i ddatblygu sgìl newydd neu’n syml, am roi cynnig ar rywbeth gwahanol.

Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Mae Wythnos Addysg Oedolion yn gyfle gwych i bobl o bob oed a chefndir ddarganfod yr amrywiaeth o gyfleoedd dysgu sydd ar gael yma yng Ngheredigion. Gall dysgu sgìl newydd helpu i feithrin hyder, agor drysau i gyfleoedd newydd a dod â phobl ynghyd. Rwy’n annog unrhyw un sydd â diddordeb i edrych ar y rhaglen, rhoi cynnig ar rywbeth newydd a gweld i ble y gallai dysgu fynd â nhw.”

Rhaglen y digwyddiadau

Dydd Llun 7 Medi, Aberteifi

  • Sesiwn galw heibio cymorth gyda dyfeisiau
  • 10:00am–12:00pm
  • Y Festri, Aberteifi
  • Cymorth un i un gyda ffonau symudol, tabledi neu liniaduron. Nid oes angen apwyntiad.

 Dydd Llun 7 Medi, Aberteifi

  • ‘Byddwch yn Greadigol’
  • Cyflwyniad i Ffotograffiaeth Ddigidol: 10:30am–11:30am
  • Golygu Lluniau: 1:00pm–3:00pm
  • Hwb Y Festri, Aberteifi, SA43 1DB
  • Mae’r sesiynau am ddim, ond mae archebu lle yn hanfodol.

 Dydd Mawrth 8 Medi, Aberaeron

  • Digwyddiad Llwybr Gyrfa
  • 10:00am–2:00pm
  • Gwesty’r Feathers, Aberaeron
  • Cymorth ymarferol i feithrin hyder, ysgrifennu CV a pharatoi ar gyfer cyfweliadau.

 Dydd Mercher 9 Medi, Llanbedr Pont Steffan

  • Cyflwyniad i adweitheg
  • 10:00am–11:30am
  • Canolfan Lles Llanbedr Pont Steffan
  • Cyfle i ddysgu beth yw adweitheg, sut mae’n gweithio a sut y gall gefnogi ymlacio a lles.

 Dydd Mercher 9 Medi, ar-lein

  • Celf Ddigidol
  • 6:00pm–8:00pm
  • Ar-lein
  • Mae’r sesiwn am ddim, ond mae archebu lle yn hanfodol.

 Dydd Iau 10 Medi, Llandysul

  • Digwyddiad Hanes Teulu Llandysul
  • 10:30am–3:00pm
  • Canolfan Llandysul, Stryd yr Eglwys, Llandysul, SA44 4QS
  • Bydd y diwrnod yn cynnwys cyflwyniad i hanes teulu, taith dywys o amgylch Eglwys Sant Tysul, adfer hen ffotograffau, sgyrsiau hanes lleol, straeon i blant, crefftau, cwisiau, te a chacen.

 Dydd Iau 10 Medi, Llandysul

  • Sesiwn galw heibio cymorth gyda dyfeisiau
  • 10:00am–12:00pm
  • Llyfrgell Llandysul
  • Cymorth un i un gyda ffonau symudol, tabledi neu liniaduron. Nid oes angen apwyntiad.

 Dydd Gwener 11 Medi, Aberystwyth

  • ‘Byddwch yn Greadigol’
  • Cyflwyniad i Ffotograffiaeth Ddigidol: 10:30am–11:30am
  • Golygu Lluniau: 1:00pm–3:00pm
  • Llyfrgell Ceredigion, Aberystwyth, SY23 2EB
  • Mae’r sesiynau am ddim, ond mae archebu lle yn hanfodol.

I archebu lle neu gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Dysgu Bro Ceredigion drwy ffonio 01970 633 540 neu anfon e-bost at admin@dysgubro.org.uk.

28/08/2026