Dweud eich dweud ar Strategaeth Anabledd Dysgu newydd Gorllewin Cymru
Mae trigolion ledled Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin yn cael eu gwahodd i rannu eu barn ar Strategaeth Anabledd Dysgu newydd Gorllewin Cymru ar gyfer 2026-2031.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Penfro, Cyngor Sir Caerfyrddin a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi bod yn gweithio’n agos gyda phobl niwroamrywiol a phobl ag anabledd dysgu i helpu i lywio cyfeiriad gwasanaethau a chymorth yn y rhanbarth yn y dyfodol.
Ar hyn o bryd, mae gan bob sir ei Strategaeth Anabledd Dysgu ei hun. Bydd y dull newydd yn dod â’r rhain at ei gilydd mewn un strategaeth ranbarthol, yn cwmpasu’r tair sir ac yn sicrhau dull mwy cyson a chydgysylltiedig ar draws gorllewin Cymru.
Mae’r argymhellion drafft wedi’u datblygu a’u hadolygu gan Bartneriaeth Gwella Bywydau Rhanbarthol (RILP), sy’n cynnwys cynrychiolwyr o:
- Cynghorau Sir Caerfyrddin, Ceredigion a Phenfro
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Y Dream Team
- Pobl yn Gyntaf Sir Gaerfyrddin
- Pobl yn Gyntaf Sir Benfro
- Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Cymru
- Amrywiol brosiectau a ariennir gan y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros Lesiant Gydol Oes: “Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl ag anabledd dysgu a phobl niwroamrywiol wrth galon y gwaith o lunio gwasanaethau sy’n effeithio arnynt. Rydym yn annog pawb i gymryd rhan a rhannu eu barn i’n helpu i ddatblygu strategaeth fydd yn wirioneddol ddiwallu anghenion cymunedau ledled Gorllewin Cymru.”
Sut i rannu eich barn
- Cwblhewch arolwg ar-lein: Strategaeth Anabledd Dysgu Gorllewin Cymru.
- Argraffwch, cwblhewch a dychwelyd yr arolwg: Gopi papur Strategaeth Anabledd Dysgu Gorllewin Cymru.
- Gallwch hefyd ofyn am gopi papur o lyfrgell neu ganolfan hamdden yng Ngheredigion, drwy ffonio 01437 764551, neu trwy e-bost i: getinvolved@pembrokesire.gov.uk.
- Dychwelwch yr arolwg i: Diwydiannau Norman, Unedau 1-2, Snowdrop Lane, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1JB.
- Bydd yr ymgynghoriad yn cau 05 Gorffennaf 2026
22/05/2026