Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Dweud eich dweud ar ddarpariaeth gofal plant yng Ngheredigion

Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i Gyngor Sir Ceredigion gynnal Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant bob 5 mlynedd er mwyn deall a yw gofal plant lleol yn diwallu anghenion teuluoedd ledled y sir.

Fel rhan o’r gwaith hwn, mae’r Cyngor yn gwahodd rhieni, gofalwyr, cyflogwyr, plant a phobl ifanc i rannu eu barn am ddarpariaeth gofal plant ar gyfer plant a phobl ifanc 0–17 oed. Bydd amrywiaeth o holiaduron ar gael i’w cwblhau yn ystod mis Medi a mis Hydref.

Mae’r Cyngor yn awyddus i glywed am eich profiadau o ddefnyddio gofal plant sydd wedi’i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru, yn ogystal â mathau o ofal plant anghofrestredig megis  nanis neu glybiau ar ôl ysgol.  Hoffem hefyd gael gwell dealltwriaeth am unrhyw rwystrau y gall  teuluoedd  eu hwynebu wrth geisio cael mynediad at ofal plant lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, gyda chyfrifoldeb dros Ofal Plant: “Mae’n hanfodol bod rhieni, gofalwyr, cyflogwyr a rhanddeiliaid eraill, ynghyd â phlant a phobl ifanc yn cael cyfle ystyrlon i rannu eu barn. Bydd eu hadborth yn helpu i nodi ble mae bylchau yn y ddarpariaeth gofal plant, a pha gymorth sydd ei angen ar deuluoedd nawr ac yn y dyfodol. Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn gweithio gyda phartneriaid priodol i ddatblygu cynllun strategol pum mlynedd sy’n ymateb i’r materion a godwyd ac sy’n cefnogi gwasanaeth gofal plant addas a chynhwysfawr i deuluoedd ledled y sir.”

I rannu eich barn, cwblhewch yr arolwg ar-lein yma: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant - Cyngor Sir Ceredigion

Bydd yr arolwg ar gael hyd 31 Hydref 2026.

Am wybodaeth bellach neu gopi papur o'r arolwg, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt ar 01545 570881 a gofynnwch am yr Uned Gofal Plant.

Bydd y wybodaeth a gesglir yn cael ei chynnwys mewn adroddiadau a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion.

10/09/2026