Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Dweud eich dweud am weithgarwch corfforol yng Ngheredigion

Mae pobl ledled Ceredigion yn cael eu gwahodd i helpu i lunio’r blaenoriaethau ar gyfer dyfodol gweithgarwch corfforol yn y sir.

Mae Gwasanaeth Canolfannau Lles Cyngor Sir Ceredigion, Ceredigion Actif, yn gofyn i bobl rannu eu barn am yr hyn a fyddai’n eu helpu i fod yn fwy egnïol yn gorfforol a’r hyn y dylid ei flaenoriaethu dros y pum mlynedd nesaf. Bydd yr adborth yn helpu i lywio Blaenoriaethau Allweddol y gwasanaeth ar gyfer 2027-2032.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Ceredigion dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid: “Rydyn ni i gyd yn gwybod bod ymarfer corff – o bob math – yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n hiechyd a’n lles, ond gall amgylchiadau, anghenion a phrofiadau pawb fod yn wahanol ac yn rhwystro symud a mwynhau bod yn actif. Dyma’r cyfle i bobl ledled Ceredigion ddweud wrth y Gwasanaeth beth all helpu pawb i fod yn fwy egnïol, beth allai helpu i’n cael ni i gyd oddi ar y soffa ac yn symud, a beth sydd bwysica’ o ran annog cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol. O glywed gan bobl y sir, y gobaith yw sicrhau bod ein blaenoriaethau ar gyfer y blynyddoedd i ddod yn mynd i ddiwallu anghenion pawb – yn  blant, yn bobl ifanc, yn bobl ganol oed a’r rhan hŷn. Mae Ceredigion Actif am weld bod rhywbeth i bawb o fewn y Gwasanaeth.”

Sut i gymryd rhan

Cwblhewch ein harolwg ar-lein: Blaenoriaethau Allweddol Gweithgarwch Corfforol 2027–2032 

Neu argraffwch a chwblhewch gopi papur: Copi papur Blaenoriaethau Allweddol Gweithgarwch Corfforol 2027-2032

Dychwelwch gopïau papur i’ch llyfrgell neu ganolfan hamdden leol, neu i Ceredigion Actif, Cyngor Sir Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron SA46 0PA.

Os hoffech gael yr wybodaeth a’r arolwg mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni ar 01545 570881 neu drwy e-bostio ceredigionactif@ceredigion.gov.uk. Gallwch hefyd gasglu copi papur o’ch llyfrgell neu ganolfan hamdden leol, neu drwy ffonio 01545 570881 neu e-bostio clic@ceredigion.gov.uk.

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 17 Ionawr 2027. Bydd yr ymatebion yn llywio Blaenoriaethau Allweddol Ceredigion Actif ar gyfer 2027-2032, a bydd crynodeb o’r canfyddiadau a’r blaenoriaethau y cytunwyd arnynt yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor.

20/11/2026