Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Disgyblion Penweddig yn darganfod cyfleoedd newydd yn Fferm Llettytwppa

Cafodd disgyblion o Ysgol Penweddig gyfle i ymweld â Fferm Llettytwppa ddydd Iau 08 Hydref fel rhan o ddiwrnod agored a oedd wedi’i gynnal er mwyn rhoi blas iddynt ar yr ystod eang o sgiliau, profiadau a chyfleoedd sydd ar gael o fewn y sector amaethyddol a gwledig.

Mae Fferm Llettytwppa yn rhan ganolog o weledigaeth hirdymor Cyngor Sir Ceredigion i ddatblygu a sefydlu canolfan sy’n cefnogi a hyrwyddo dysgu, datblygu sgiliau a chreu chyfleoedd cyflogaeth, gan gyfrannu at feithrin y genhedlaeth nesaf medrus o weithwyr a busnesau llwyddiannus yn y sector gwledig yng Ngheredigion a thu hwnt.

Yn ystod y diwrnod, bu’r disgyblion yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ymarferol dan arweniad Hyfforddiant Ceredigion, gan gynnwys gwaith coed, gwaith gof, barnu stoc a gweithgareddau’n ymwneud â bwydydd anifeiliaid.

Roedd y diwrnod hefyd yn gyfle i amlygu sut y gall Fferm Llettytwppa ddarparu amgylchedd ymarferol lle gall pobl ifanc ddatblygu sgiliau newydd, magu hyder ac ystyried yr amrywiaeth o lwybrau gyrfa a allai fod ar gael iddynt yn y dyfodol.

Dyma’r cyntaf mewn cyfres o ymweliadau sy’n cael eu cynnig i ysgolion. Mae pob ysgol uwchradd ac ysgol gydol oed yng Ngheredigion wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan, gyda’r bwriad o ymestyn y cynnig i ysgolion y tu hwnt i ffiniau’r sir yn y dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: "Mae’n ganologol iawn gweld cymaint o frwdfrydedd a diddordeb ymhlith y bobl ifanc a ymwelodd â Fferm Llettytwppa. Mae amaethyddiaeth a’r economi wledig yn rhan annatod o fywyd a ffyniant Ceredigion, ac mae’n hanfodol bwysig ein bod yn cynnig cyfleoedd i’r genhedlaeth nesaf ddatblygu sgiliau newydd a dysgu mwy am yr ystod eang o yrfaoedd sydd ar gael yn y sector. Mae Fferm Llettytwppa yn darparu amgylchedd ddysgu ymarferol a gwerthfawr, ac edrychaf ymlaen at weld mwy o ysgolion yn manteisio ar y cyfleoedd arbennig hyn dros y misoedd nesaf."

Yn ôl un disgybl Blwyddyn 10 o Ysgol Penweddig, Lela Jenkins: “Roedd yn gyfle gwych i ddysgu am Amaethyddiaeth tu allan i’r ystafell ddosbarth, barnu stoc oedd y weithgaredd orau yn fy marn i.”

Bydd rhagor o gyfleoedd yn cael eu trefnu ar gyfer ysgolion eraill i ymweld yn ystod y misoedd i ddod. I ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael yn Fferm Llettytwppa, gan gynnwys Cyrsiau Prentisiaeth Amaethyddol Lefel 2 a 3, ewch i wefan Hyfforddiant Ceredigion Training neu cysylltwch â’r Gwasanaeth am ragor o wybodaeth.

09/10/2026