Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Disgyblion cynradd ardal y Garreg Las yn uno i lansio cân arbennig

Mae disgyblion ysgolion cynradd ardal y Garreg Las wedi dod ynghyd i ryddhau cân newydd sbon yn cwmpasu’r hyn sy’n gwneud eu hardal nhw mor arbennig.

Caiff y gân ‘Croeso i Fro’r Garreg Las’ ei rhyddhau ar 12 Mehefin ar yr holl blatfformau digidol i nodi 50 diwrnod tan y bydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru ymweld â’r ardal.

Mae’r prosiect wedi uno plant o dair sir – Sir Benfro, Ceredigion, a Sir Gaerfyrddin – wrth iddynt gydweithio i greu perfformiad unigryw sy’n dathlu’r Gymraeg, y cymunedau lleol a’r cyffro wrth i’r ŵyl genedlaethol agosáu.

Roedd 50 o ysgolion cynradd ar draws y dair sir yn rhan o’r prosiect, gan ddod â channoedd o blant a phobl ifanc ynghyd i ddathlu eu hardal, eu hiaith a’u diwylliant.

Bydd y gân yn cael ei rhyddhau ar 12 Mehefin, ynghyd â fideo lliwgar a gafodd ei ffilmio mewn nifer o leoliadau eiconig ledled ardal y Garreg Las. Teithiodd y disgyblion i safleoedd nodedig, gan gynnwys Aberteifi, Dinbych y Pysgod, Tyddewi, Pentre Ifan a Drefach Felindre i berfformio a dod â’r gân yn fyw, gan ychwanegu at ymdeimlad cryf o le a hunaniaeth.

Cafodd y geiriau eu cyfansoddi gan y Prifardd Ceri Wyn Jones, gyda’r alaw gan Einir Dafydd, ac mae’r trac wedi’i gynhyrchu gan Mei Gwynedd. Ffilmiwyd y fideo gan Gareth Bull.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Tessa Hodgson: “Rydym yn falch iawn i groesawu’r Eisteddfod Genedlaethol i Lantwd yr haf hwn. Mae wedi bod yn bleser gweld pobl ifanc o’r dair sir yn dod at ei gilydd i greu cân arbennig sy’n dathlu’r ardal ac yn adeiladu cyffro wrth i ni edrych ymlaen at yr Eisteddfod. Mae cydweithio ar draws Bro’r Garreg Las wedi bod wrth galon y prosiect hwn.”

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion sy’n gyfrifol am Ddiwylliant: “Mae'r gân hon yn dathlu'r iaith Gymraeg a chymeriad unigryw yr ardal gyfan– o'r arfordir i gefn gwlad. Mae geiriau Ceri Wyn yn cynnig blas o’n hanes a'n treftadaeth hefyd. Bydd cyfle i Gymru gyfan fwynhau ein hardal ym mis Awst ac i glywed rhai o’n storis – dewch yn llu!”

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Gâr ar gyfer Ysgolion a’r Iaith Gymraeg: “Mae hi wedi bod yn fraint gweithio gydag ysgolion Cymraeg a Saesneg ar draws y siroedd i greu’r gân arbennig hon. Mae dros 500 o blant wedi cyfrannu ati, sy'n gamp anhygoel! Mae’n braf iawn gweld bod y Gymraeg a’r Eisteddfod yn perthyn i bawb.”

Gallwch wrando ar y gân ar yr holl blatfformau digidol o 12 Mehefin ymlaen, neu cliciwch yma i wneud ‘pre-save’: Croeso i Fro'r Garreg Las

I wylio’r fideo ar YouTube, dilynwch y ddolen hon: https://youtu.be/IxoyYNj8kMA

11/06/2026