Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Cynnal y Cardi - Cronfa Twf Lleol 2026-2027

Fel rhan o ymrwymiad parhaus i gefnogi datblygiad economaidd a busnesau, mae Cyngor Sir Ceredigion yn darparu Grant Cyfalaf Busnes Cynnal y Cardi. Mae'r grant hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, ei weinyddu gan Lywodraeth Cymru, a'i ddarparu drwy Gronfa Twf Lleol.

Bwriad y gefnogaeth hon yw cryfhau gwydnwch busnesau, ysgogi twf economaidd, a chyfrannu at ffyniant hirdymor Ceredigion.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn lansio cynllun grant busnes sy’n darparu cyllid ar gyfer prosiectau buddsoddi cyfalaf yn unig. Bydd y ffurflen Mynegiant o Ddiddordeb ar agor o 1 Gorffennaf 2026 tan 3 Awst a bydd yn cael ei hasesu am gymhwysedd. 

Bydd ymgeiswyr cymwys yn derbyn gwahoddiad i gyflwyno cais lawn.

Grant Cyfalaf Busnes Cynnal y Cardi – isafswm cefnogaeth o £2,500 hyd at £50,000.

Nod Grant Cyfalaf Busnes Cynnal y Cardi yw:

  • Cynyddu buddsoddiad cyfalaf mewn busnesau sydd â photensial twf uchel, gan alluogi gwelliannau mewn cynhyrchiant, arloesedd a chystadleurwydd.
  • Cefnogi uchelgeisiau twf ac ehangu busnesau newydd a busnesau presennol.
  • Hwyluso datblygiad y sector mentrau cymdeithasol, gan helpu sefydliadau i wireddu cyfleoedd newydd a chyflawni twf cynaliadwy.
  • Hyrwyddo creu swyddi, datblygu'r gweithlu a lefelau cyflog uwch ar draws yr economi leol.

Mae'r rhaglen yn arbennig o awyddus i gefnogi prosiectau sy'n dangos arloesedd, mynediad at farchnadoedd gwerth uwch, a mabwysiadu dulliau newydd neu greadigol sy'n gwella twf busnes, cystadleurwydd a chynaliadwyedd hirdymor.

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet ar gyfer yr Economi, Adfywio a Rheoli Carbon: “Mae Grant Cyfalaf Busnes Cynnal y Cardi yn gyfle pwysig i fusnesau ledled Ceredigion fuddsoddi yn eu dyfodol. Drwy gefnogi prosiectau cyfalaf sy’n hybu arloesedd, gwella cynhyrchiant a chreu swyddi, bydd y cyllid hwn yn helpu i gryfhau ein heconomi leol ac adeiladu gwydnwch hirdymor. Hoffwn annog pob busnes cymwys sydd ag uchelgeisiau i dyfu i ddod ymlaen a mynegi eu diddordeb.”

Bydd y Gronfa yn gynllun grant busnes, a fydd yn cynnwys cefnogaeth tuag at brosiectau gwariant cyfalaf a gwariant refeniw arbenigol (e.e. costau hyfforddi sy'n gysylltiedig â phrynu offer cyfalaf - heb gynnwys costau rhedeg parhaus na chostau staff).

Sylwch fod yn rhaid i chi lenwi ffurflen Mynegi Diddordeb yn gyntaf, sy'n gofyn i chi ddarparu gwybodaeth am eich prosiect. Yna bydd eich cyflwyniad yn cael ei asesu am gymhwysedd. Os yw eich prosiect yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, cewch eich gwahodd i lenwi ffurflen gais lawn.

Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn y naill iaith neu'r llall yn cael eu trin yn gyfartal. 

Bydd y gronfa'n croesawu ceisiadau ar sail y cyntaf i'r felin rhwng 1 Gorffennaf 2026 a 14 Awst 2026 (ceisiadau llawn drwy wahoddiad yn unig), neu nes bod y gronfa wedi'i dyrannu'n llawn.

Am fwy o wybodaeth e-bostiwch ce.cynnalycardi@ceredigion.gov.uk

02/07/2026