Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Cadeirydd yn nodi diwedd ei thymor drwy gefnogi Elusen Ambiwlans Awyr Cymru

Wrth i’w thymor fel Cadeirydd ddod i ben, nododd y Cynghorydd Ann Bowen Morgan, Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion, yr achlysur drwy gynnal Gwasanaeth Dinesig ar 8 Mawrth 2026.

Daeth aelodau o’r gymuned ynghyd yn ystod y gwasanaeth i fyfyrio ar ei chyfnod yn y rôl, ac ar yr un pryd i gefnogi elusen ddewisol y Cadeirydd, sef Elusen Ambiwlans Awyr Cymru. Cynhaliwyd casgliad yn ystod y gwasanaeth a chodwyd cyfanswm o £1,000.

Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn darparu gwasanaethau ambiwlans awyr brys hanfodol ledled Cymru, gan ddarparu gofal meddygol uwch i bobl mewn angen, yn aml mewn ardaloedd gwledig ac anodd eu cyrraedd.

Trosglwyddwyd yr arian yn ffurfiol ar 13 Ebrill, pan gyflwynodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Ann Bowen Morgan, siec i Emily Bell, cynrychiolydd o Elusen Ambiwlans Awyr Cymru. Roedd y cyflwyniad yn tynnu sylw at lwyddiant yr ymgyrch codi arian a phwysigrwydd cefnogi gwasanaethau achub bywydau ledled Cymru.

Dywedodd Emily Bell, Cydlynydd Codi Arian yr Elusen: “Ar ran Ambiwlans Awyr Cymru, hoffwn estyn ein diolch o galon i’r Cynghorydd Ann Bowen Morgan am ein dewis ni fel ei Helusen y Flwyddyn, ac i bawb a gefnogodd y Gwasanaeth Dinesig. Bydd yr haelioni a ddangoswyd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n gallu i ddarparu gofal meddygol uwch, sy'n achub bywydau i gymunedau Ceredigion ac ar draws Cymru gyfan. Wrth i’n Helusen ddathlu ei phen-blwydd yn 25 oed yn 2026, rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth hon, sy’n helpu i sicrhau y gallwn barhau i helpu'r rhai sydd ein hangen fwyaf.”

Wrth siarad am ei phenderfyniad i gefnogi’r elusen, dywedodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Ann Bowen Morgan:
“Dewisais elusen Ambiwlans Awyr Cymru oherwydd y rôl hanfodol y mae’n ei chwarae wrth ymateb i argyfyngau ledled Cymru. Mae’r gwasanaeth yn darparu gofal cyflym ac arbenigol mewn rhai o’r amgylchiadau mwyaf heriol, ac mae’n dibynnu’n llwyr ar roddion gan y cyhoedd er mwyn parhau â’r gwaith achub bywydau.”

Mynegodd y Cadeirydd ei diolch diffuant i bawb a gefnogodd y Gwasanaeth Dinesig ac a gyfrannodd at y casgliad, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i waith Elusen Ambiwlans Awyr Cymru.

Bydd yr arian a godwyd yn mynd yn uniongyrchol tuag at gefnogi gwaith parhaus yr elusen ar draws cymunedau Cymru.

14/05/2026