Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn ceisio barn i wella llesiant lleol
Mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gâr, Ceredigion a Sir Benfro yn gofyn am farn trigolion i ddarganfod beth sy'n bwysig iddyn nhw a'u cymunedau lleol.
Bydd y canlyniadau sy'n cael eu casglu yn helpu'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i ddeall y ffactorau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol sy'n effeithio ar lesiant unigolion a chymunedau o fewn y tair sir.
Bydd yr ymatebion i'r arolwg llesiant rhanbarthol yn cael eu dadansoddi a byddan nhw'n cyfrannu at Gyd-Gynllun Llesiant Ceredigion/Sir Gâr 2028-2033. Bydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro hefyd yn cyhoeddi ei gynllun lleol.
Bydd y cynllun llesiant drafft yn ceisio gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ein siroedd.
Er mwyn helpu i lunio dyfodol llesiant, cwblhewch yr arolwg ar-lein erbyn 8 Awst 2026.
Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Chadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus: "Mae lleisiau a phrofiad byw ein trigolion yn allweddol wrth nodi'r hyn y mae llesiant yn ei olygu a sut y gallwn ymdrechu i wella ar gyfer ein cenedlaethau i ddod. Hoffwn annog ein trigolion, grwpiau a chymunedau lleol i gwblhau'r arolwg neu ymuno â ni mewn digwyddiadau yn y dyfodol."
Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Bryan Davies: “Mae gweithio gyda’n gilydd ar draws ein tair sir yn rhoi cyfle gwerthfawr i ni feithrin darlun cliriach, ar y cyd, o’r hyn sy’n bwysig i’n cymunedau. Mae pob ymateb yn ein helpu i ddeall yn well yr heriau y mae pobl yn eu hwynebu a’r cyfleoedd y gallwn eu datblygu i gefnogi llesiant, nawr ac yn y dyfodol. Byddwn yn annog pawb yn gryf i gymryd ychydig funudau i rannu eu barn a helpu i lunio ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol.”
Mae'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn bartneriaeth o sefydliadau cyhoeddus a'r trydydd sector sy'n gweithio gyda'i gilydd i wella llesiant. Mae paratoi Asesiad Llesiant Lleol yn gyfrifoldeb statudol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Sut i rannu eich barn
- Cwblhewch ein harolwg ar-lein: Arolwg Snap.
- Neu lawrlwythwch gopi papur yma: Holiadur Llesiant.
- Plant a Phobl Ifanc, lawrlwythwch gopi papur wedi'i gynllunio ar eich cyfer: Holiadur Llesiant Plant a Phobl Ifanc.
- Gallwch hefyd gasglu copi papur o'ch Llyfrgell neu Ganolfan Hamdden leol neu drwy ffonio 01545 570881 neu anfon e-bost atom yn clic@ceredigion.gov.uk.
- Os hoffech dderbyn y wybodaeth mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni ar 01545 570881 neu e-bostiwch partneriaethau@ceredigion.gov.uk.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan y Cyngor: Asesiad o Lesiant Lleol
12/06/2026