Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Atal derbyn oergelloedd a rhewgelloedd dros dro yn Safle Gwastraff Cartref Glanyrafon

Hoffai Cyngor Sir Ceredigion wneud trigolion yn ymwybodol, yn anffodus, na ellir derbyn oergelloedd, rhewgelloedd ac oergell-rewgelloedd yn Safle Gwastraff Cartref Glanyrafon ar hyn o bryd.

Mae hyn o ganlyniad i broblemau sy’n effeithio ar y diwydiant ailgylchu ac ailbrosesu DU gyfan. Mae tanau diweddar mewn cyfleusterau prosesu offer oer wedi lleihau’r capasiti ailbrosesu sydd ar gael yn sylweddol, ac nid yw nifer o ailbroseswyr yn gallu derbyn deunydd ychwanegol am y tro. O ganlyniad, mae awdurdodau lleol a gweithredwyr gwastraff ledled y wlad yn profi anawsterau wrth drefnu triniaeth ymlaen ar gyfer yr eitemau hyn.
 
Ar hyn o bryd, mae’r broblem wedi’i chyfyngu i Safle Gwastraff Cartref Glanyrafon, ac mae dal yn bosibl i drigolion gael gwared ar eu hoergelloedd, eu rhewgelloedd a’u hoergell-rewgelloedd yn Safleoedd Gwastraff Cartref Cilmaenllwyd, Llanbedr Pont Steffan a Rhydeinon. Fodd bynnag, wrth i’r sefyllfa ddatblygu’n genedlaethol, gallai hyn newid ar fyr rybudd.
 
Rydym yn deall y gallai hyn fod yn rhwystredig i drigolion sydd angen cael gwared ar hen offer ac rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y gallai’r ataliad dros dro hwn ei hachosi.
 
Dywedodd y Cynghorydd Shelley Childs, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol:
 
"Rydym yn gwybod bod llawer o drigolion yn dibynnu ar ein Safleoedd Gwastraff Cartref i gael gwared ar oergelloedd a rhewgelloedd diangen, ac mae’n flin gennym na allwn dderbyn yr eitemau hyn yng Nglanyrafon ar hyn o bryd. Mae hyn yn broblem genedlaethol sy’n effeithio ar y sector ailgylchu ehangach ac sydd y tu hwnt i reolaeth y Cyngor, yn anffodus.
 
Rydym yn gweithio’n agos gyda’n contractwyr a phartneriaid y diwydiant i gadw’r sefyllfa dan sylw. Rydym hefyd yn archwilio datrysiadau storio dros dro a allai ein galluogi i barhau i dderbyn yr eitemau hyn tra bod y capasiti ailbrosesu’n dal i fod yn gyfyngedig. Ein nod yw adfer y gwasanaeth cyn gynted â phosibl, a hoffem ddiolch i’r trigolion am eu hamynedd a’u dealltwriaeth yn ystod y cyfnod hwn."
 
Gofynnir yn garedig i drigolion beidio â dod ag oergelloedd, rhewgelloedd ac oergell-rewgelloedd i Safle Gwastraff Cartref Glanyrafon nes clywir yn wahanol, gan na fydd staff y safle’n gallu eu derbyn.
 
Bydd diweddariadau’n cael eu rhannu trwy wefan y Cyngor a’i sianeli cyfryngau cymdeithasol unwaith y bydd y sefyllfa’n newid.
 
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar wasanaethau Safleoedd Gwastraff Cartref, ewch i Safle Gwastraff Cartref a Banciau - Cyngor Sir Ceredigion

30/07/2026