Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Trefniadau casglu gwastraff dros gyfnod yr ŵyl

Bydd rhywfaint o newid i’r trefniadau casglu gwastraff yng Ngheredigion dros gyfnod yr ŵyl.

Byddwn yn ymdrechu i gasglu gwastraff fel a ganlyn:

  • Bydd casgliadau fyddai fel arfer yn disgyn ar ddydd Iau 25 Rhagfyr 2025, yn symud i ddydd Sadwrn 27 Rhagfyr 2025.
  • Bydd casgliadau fyddai fel arfer yn disgyn ar ddydd Gwener 26 Rhagfyr 2025, yn symud i ddydd Sul 28 Rhagfyr 2025. 
  • Bydd casgliadau fyddai fel arfer yn disgyn ar ddydd Iau 01 Ionawr 2026, yn symud i ddydd Sadwrn 03 Ionawr 2026.
  • Bydd casgliadau ar ddydd Llun 29 Rhagfyr, dydd Mawrth 30 Rhagfyr, dydd Mercher 31 Rhagfyr, a dydd Gwener 2 Ionawr 2026 yn parhau fel y trefnwyd.

Bydd y casgliadau Gwastraff Cartref Swmpus a Gwastraff Gardd yn cael eu hatal o 19 Rhagfyr 2025 a byddant yn ailddechrau ar yr wythnos sy’n dechrau ar 05 Ionawr 2026.

Mae nifer o weithlu’r Gwasanaeth Gwastraff yn ymwneud â darparu gwasanaeth cynnal a chadw dros y gaeaf, gan gynnwys graeanu. Gall hyn gael effaith uniongyrchol a phellach ar wasanaethau casglu gwastraff.

Pe bai tywydd garw yn ystod y gwyliau bydd hyn yn effeithio ar gasgliadau gwastraff a bydd y dull o ymdrin â'r rhain yn cael ei adolygu mewn ymateb iddynt, gan gymryd i ystyriaeth elfennau perthnasol megis eu hyd ac argaeledd adnoddau.

Bydd yr adnoddau sydd ar gael yn cael eu defnyddio ar sail blaenoriaeth. Mae hyn fel arfer yn golygu canolbwyntio ar y casgliadau gweddilliol (bag du), bwyd a Gwastraff Hylendid Amsugnol (AHP). Atgoffir trigolion fod y cyfyngder ar nifer y bagiau du gellir eu cyflwyno dros adeg yn Nadolig yn parhau gydag uchafswm o dri bag du bob tair wythnos.

Mae'r casgliadau bagiau ailgylchu (clir) wythnosol yn rhoi cyfle i adennill y rhain yn gyflym. Mae gwydr yn haws i’w storio ac mae cyfleoedd eraill i gael gwared arno mewn banciau gwydr cymunedol ac yn Safleoedd Gwastraff Cartref y Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Shelley Childs, Aelod Cabinet dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon: “Mae ein timau gweithredol yn gweithio trwy gydol y flwyddyn ym mhob tywydd ac felly maent yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan y cymunedau y maent yn rhan ohonynt ac yn eu gwasanaethu. Hoffwn estyn gair o ddiolch diffuant iddynt am eu holl ymdrechion. Gall amhariadau fod ar y gwasanaeth casglu gwastraff dros gyfnod y Nadolig am wahanol resymau. Byddwn yn ceisio darparu gwasanaethau fel yr hysbysebwyd, darparu diweddariadau rheolaidd ac adfer cyn gynted â phosibl os effeithir ar wasanaethau”.

“Hoffwn hefyd achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’n cwsmeriaid am eu cefnogaeth barhaus a’u hymgysylltiad cadarnhaol. Mae hyn yn golygu bod Ceredigion ymhlith yr awdurdodau lleol sy'n perfformio orau o ran ailgylchu yng Nghymru a bod y gwastraff na allwn ei ailgylchu yn cael ei drin drwy broses ynni ar gyfer gwastraff. Dyma enghraifft wych o Caru Ceredigion ar waith, gyda’r Cyngor a’n cymunedau yn cydweithio i ymdrin â’n gwastraff yn y modd mwyaf amgylcheddol ac ariannol effeithlon. Diolch yn fawr iawn i chi gyd”.

Safleoedd Gwastraff Cartref

Mae pob Safle Gwastraff Cartref ar gau ar Ddydd Nadolig a Dydd Calan. Ar Wyliau Banc eraill, gan gynnwys Gŵyl San Steffan, byddant i gyd ar agor rhwng 10:00-15:00.

Mae oriau agor arferol y Safleoedd Gwastraff Cartref Cilmaenllwyd, Aberteifi; Glanyrafon, Aberystwyth; a Llanbedr Pont Steffan, fel a ganlyn:

  • Dydd Llun i ddydd Gwener: 09.00-17.00
  • Dydd Sadwrn a dydd Sul: 10.00-15.00

Rhydeinon, Llanarth:

  • Dydd Mercher, Sadwrn a Sul: 10.00-17.00

Bydd diweddariadau dyddiol ar y gwasanaethau casglu gwastraff yn cael eu postio ar y dudalen we ganlynol: Diweddariadau i’r Gwasanaeth Casglu Gwastraff

16/12/2025