Skip to main content

Ceredigion County Council website

Newidiadau i wasanaeth casglu gwastraff Ceredigion

Mae Ceredigion wedi bod yn gyson yn un o'r ailgylchwyr sy'n perfformio orau yn y Deyrnas Unedig. Er hyn, mae data yn awgrymu bod tua 50% o gynnwys 'bagiau duon' a gasglwyd yng Ngheredigion yn wastraff y gellir eu hailgylchu. Yr elfen fwyaf oedd gwastraff bwyd (24%).

Er mwyn annog rhagor o drigolion i ailgylchu mwy o'u gwastraff, bydd Cyngor Sir Ceredigion yn cyflwyno newidiadau i'w wasanaeth casglu gwastraff gweddilliol ("bagiau du").

O 23 Mehefin 2025 ymlaen, dim ond hyd at dri "bag du" y bydd y Cyngor yn casglu fesul cylch casglu 3 wythnos. Pwrpas y newid yw annog trigolion i wneud defnydd llawn a phriodol o wasanaethau ailgylchu'r Cyngor, yn enwedig y gwasanaeth casglu gwastraff bwyd. Mae cyfyngiadau tebyg ar gyfer gwastraff gweddilliol eisoes ar waith yn y 21 Awdurdod Lleol arall yng Nghymru ac maent wedi helpu'r Cynghorau hynny i wella eu perfformiad ailgylchu a lleihau costau gwaredu gwastraff.

Nid yw'r cyfyngiad yn cynnwys bagiau Cynnyrch Hylendid Amsugnol (CHA) a ddarperir gan y Cyngor. Ni fydd terfyn ar faint o wastraff ailgylchadwy y gellir ei roi allan i'w gasglu mewn bagiau clir, biniau gwastraff bwyd neu flychau gwydr, os yw'r cynwysyddion yn cael eu defnyddio yn y ffordd gywir.

Ers i'r gwasanaeth casglu gwastraff presennol gael ei gyflwyno yn 2019-20, y cyngor yw y dylai bagiau gwastraff gweddilliol gynnwys gwastraff na ellir ei ailgylchu yn unig. Nod y newid hwn yw annog trigolion i ailgylchu cymaint ag y gallant.

Dywedodd y Cynghorydd Shelley Childs, Aelod Cabinet Ceredigion dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol: "Mae gwasanaethau ailgylchu Cyngor Sir Ceredigion wedi'u cynllunio i wneud ailgylchu'n haws, nid yn anoddach. Nod y cyfyngiad gwastraff gweddilliol, sydd eisoes ar waith ym mhob awdurdod lleol arall yng Nghymru, yw cynyddu gallu Ceredigion fel sir i ailgylchu cymaint o wastraff â phosibl. Bydd hyn yn helpu i wneud Ceredigion yn sir fwy cynaliadwy a chynyddu ein perfformiad ailgylchu rhagorol hyd yn oed ymhellach. Rydym yn gofyn i bawb sy'n gallu i ailgylchu cymaint o'u gwastraff â phosibl ac ailgylchu eu gwastraff bwyd drwy’r gwasanaeth casglu wythnosol."

Lle bo pob ymdrech wedi'i wneud i ailgylchu a bod yna wastraff gormodol na ellir ei ailgylchu o hyd, neu mae amgylchiadau lle nad yw preswylwyr yn gallu ailgylchu oherwydd anableddau a/neu namau, gellir caniatáu mwy o wastraff gweddilliol. Yn yr amgylchiadau hyn, gofynnir i breswylwyr, neu rywun sy'n gweithredu ar eu rhan, lenwi a chyflwyno ffurflen gais i'w cymeradwyo. Gellir dod o hyd i'r ffurflen yma.

Ni fydd trigolion yn gallu mynd â gwastraff heb ei ddidoli i unrhyw un o safleoedd Gwastraff Cartref y Cyngor bellach. Nid yw hyn yn waharddiad llwyr ar wastraff gweddilliol ar y safleoedd, ond mae'n ofynnol i drigolion ddidoli unrhyw beth i'w ailgylchu cyn ymweld â safle, neu i ddidoli bagiau gwastraff gweddilliol wrth gyrraedd.  Atgoffir preswylwyr hefyd bod angen prawf preswylio (fel trwydded yrru neu fil cyfleustodau) wrth ddefnyddio un o safleoedd gwastraff cartref y sir.

Ychwanegodd y Cynghorydd Shelley Childs: “Pan gyflwynwyd yr arferion ‘dim gwastraff heb ei ddidoli’ ar safle gwastraff y cartref yn Aberystwyth yn gynharach eleni, hanerodd swm y gwastraff gweddilliol a dderbyniwyd ar y safle, sy'n newyddion gwych i'r amgylchedd. Hoffwn ddiolch i drigolion am barchu'r newidiadau yn y safleoedd gwastraff cartref, ac am helpu i gadw adnoddau naturiol y ddaear mewn cylchrediad, gan leihau'r angen a'r gost ar gyfer gwaredu gwastraff."

Ar gyfer unrhyw ymholiadau, gall preswylwyr gysylltu â'n Canolfan Gyswllt Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01545 570881 neu drwy e-bost ar clic@ceredigion.gov.uk