Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Gwarchodwyr Plant Ceredigion yn Dathlu Wythnos Gwarchod Plant 2025

Cafodd Wythnos Gwarchod Plant ei chynnal eleni rhwng 10 - 16 Mai, gyda’r thema ‘Arwyr Gofal Plant Di-glod’. Roedd yn gyfle i godi ymwybyddiaeth o Warchodwyr Plant, dathlu’r gwaith arbennig maent yn ei wneud ac i greu ymdeimlad o gymuned wrth gynnwys ystod eang o randdeiliaid y sector.

Gwnaeth Uned Gofal Plant Ceredigion gynnal digwyddiad ar ddydd Mawrth, 13 Mai, lle gwelwyd darparwyr gofal plant a’r plant y maent yn gofalu amdanynt yn dod at ei gilydd am bicnic a chael cyfle i chwarae. Cynhaliwyd y digwyddiad yn lleoliad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Llanerchaeron, a’i drefnu gyda chymorth y darparwr gofal plant o Benparc, Terri Steele. Ar y diwrnod braf hwnnw ynghanol prydferthwch Llanerchaeron, roedd y mynychwyr yn medru mynd am dro o amgylch yr ardd, ymweld â’r anifeiliaid fferm a chwarae’n rhydd ar y lawntiau gydag amrywiaeth o deganau a gemau, cyn mwynhau paned o de a phicnic.

Mynychodd staff yr Uned Gofal Plant hefyd er mwyn dangos eu gwerthfawrogiad i’r sector, rhoi cyngor ac ateb unrhyw gwestiynau. Daeth y dathliad i ben gyda the, cacen a bisgedi i bawb cyn i’r plant a’u gwarchodwyr droi am adref.

Cynhaliwyd amrywiaeth o ddigwyddiadau eraill yn ystod yr wythnos, gan gynnwys Dathliad a Diweddariad gyda’r Uned Gofal Plant, digwyddiadau cenedlaethol wedi’u cynnal gan Coram Pacey Cymru, ynghyd â digwyddiadau lleol, llai wedi’u trefnu gan rwydweithiau o warchodwyr plant ar draws y sir. 

Gwnaeth y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet yng Ngheredigion dros Ysgolion, Addysg a Sgiliau Gydol Oes wneud y sylwad: “Mae Gwarchodwyr Plant yn rhan werthfawr iawn o’r sector Gofal Plant yng Ngheredigion, ac mae’n braf cael cyfle i ddathlu a chefnogi’r gwaith y maent yn ei wneud wrth gefnogi plant a’u teuluoedd yng Ngheredigion.”

Dywedodd Carys Davies, Rheolwr Strategaeth Gofal Plant dros Geredigion: “Rydym yn ffodus o gael cymuned ffyniannus o Warchodwyr Plant yng Ngheredigion sydd wedi ymroi i’w proffesiwn. Mae’r Uned Gofal Plant yn falch iawn o’u cefnogi trwy gyflawni gofal plant hyblyg i gymunedau Ceredigion.”

I ganfod mwy am Warchod Plant, e-bostiwch clic@ceredigion.gov.uk neu ewch i  Darparu Gwasanaeth Gofal Plant a/neu Chwarae – Cyngor Sir Ceredigion