
Cynllun i uwchraddio Llwybr wrth y Llyfrgell Genedlaethol
Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn gwneud gwaith i wella llwybr sy'n cysylltu Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC) a hynny ar ôl penodi contractwr lleol. Mae'r rhan hon o'r llwybr yn cychwyn wrth adeilad Gorwelion ar Ffordd Llanbadarn ac yn cysylltu ag adeilad y Llyfrgell Genedlaethol.

Dywedodd Mark Stevens, Pennaeth Tîm Ystadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru: "Bydd angen cau'r llwybr hwn am ychydig fisoedd yn ystod y gwaith adeiladu. Unwaith y bydd y gwaith wedi'i gwblhau bydd yn cynnig cyswllt llawer gwell yn uniongyrchol i'n prif adeilad. Mae ein hymdrechion parhaus i ddatgarboneiddio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn enghraifft o'n hymrwymiad i gyrraedd targed sero net erbyn 2028. Bydd y gwaith o osod y llwybr Teithio Llesol yn cyfrannu'n sylweddol at yr amcanion hyn drwy hyrwyddo dulliau teithio carbon-is.”
Dywedodd y Cynghorydd Shelley Childs, yr Aelod o Gabinet Ceredigion dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol:“Daw’r cynllun teithio llesol hwn i fod diolch i swyddogion Cyngor Ceredigion yn sicrhau cyllid grant gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth Trafnidiaeth Cymru. Nid yn unig y bydd hyn yn gwella hygyrchedd i'r Llyfrgell Genedlaethol a Champws Penglais Prifysgol Aberystwyth, ond hefyd mae’n rhan o gynigion ehangach i gysylltu cymunedau Bow Street, Penrhyn-coch a Chomins Coch gyda Chanol Tref Aberystwyth drwy gyfrwng llwybrau beicio.”
I gael rhagor o fanylion ynglŷn â theithio llesol yng Ngheredigion, ewch i'r dudalen we bwrpasol ar wefan y Cyngor sy'n cynnwys fideo 3D o’r awyr o gynigion y Llwybrau Teithio Llesol yn ardal Aberystwyth: www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/teithio-ffyrdd-a-pharcio/teithio-llesol/