Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Cydnabyddiaeth i Geredigion am fod yn un o’r siroedd â’r ansawdd aer gorau yng Nghymru

Mae mesur ansawdd aer yn ofyniad cyfreithiol yng Nghymru, ac mae Cyngor Sir Ceredigion yn falch o gyhoeddi bod gan y sir un o'r canlyniadau gorau yn y wlad.

Yn unol â gofyniad Llywodraeth Cymru, rhaid mesur Nitrogen Deuocsid (NO2) a Deunydd Gronynnol a Gludir yn yr Awyr (PM10), sef llygryddion aer sy'n gysylltiedig ag allyriadau cerbydau.

Mae Tîm Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Sir Ceredigion yn monitro lefel y llygredd drwy gyfrwng Tiwbiau Tryledu sy'n cael eu gosod ar byst lamp ar ochr y ffordd. 

Y terfyn statudol blynyddol ar gyfer NO2 yw cymedr o 40μg/m3. Yng Ngheredigion, mae'r crynodiadau NO2 yn is o lawer na'r terfyn hwn. 

Caiff cyfanswm o 13 lleoliad eu monitro yng Ngheredigion, gan gynnwys saith yn Aberystwyth; un yn Llanbedr Pont Steffan; dau yn Aberteifi; ac un ym Mhendam, Talybont a Llanon. Maent wedi cael eu dewis fel lleoliadau sy'n dueddol o brofi symiau uchel o dagfeydd traffig.

Yn 2023, Stryd Fawr Llanbedr Pont Steffan a Thalybont oedd â'r cymedr blynyddol uchaf o NO2 gydar 16.3μg/m3 a 16.2μg/m3. Fodd bynnag, roedd hyn yn dal i fod yn is na'r terfyn statudol. Gallai hyn fod oherwydd tagfeydd traffig cyfnodol yn Llanbedr Pont Steffan, a chefnffordd brysur sy'n rhedeg trwy bentref Talybont.

Ar gyfer PM10, defnyddir data gan DEFRA i fonitro crynodiadau yng Ngheredigion. Yn yr un modd â Chymru wledig gyfan, dangosodd Ceredigion lai na 13μg/m3 yn 2023, sy'n llai na thraean o'r terfyn statudol o 40μg/m3.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet dros Bartneriaethau, Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu'r Cyhoedd: "Mae'r data hwn yn tynnu sylw at ein hymrwymiad i gynnal amgylchedd glân ac iach i'n trigolion a'n hymwelwyr. Mae ansawdd aer da yn hanfodol ar gyfer iechyd y cyhoedd, gan leihau risgiau o afiechydon anadlol, gwella ansawdd bywyd, a chefnogi bioamrywiaeth."

Fel rhan o'r Adroddiad Cynnydd Ansawdd Aer nesaf, bydd Ceredigion yn parhau i fonitro lefelau llygryddion i sicrhau cydymffurfiaeth barhaus ac i gynnal ansawdd aer da er budd pawb yn ein sir.

Gallwch ddarllen yr Adroddiad Cynnydd Ansawdd Aer yn llawn ar ein gwefan: www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/strategaethau-cynllunio-a-pholisiau/rheoli-carbon/